Tasglu i ystyried t芒l ac amodau gwaith athrawon Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd gr诺p o arbenigwr addysg yn ystyried t芒l ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru yn y dyfodol, a bydd trefn newydd mewn grym o Fedi 2019.
Yr Athro Mick Waters yw cadeirydd tasglu fydd yn cael ei sefydlu yn y flwyddyn newydd fel rhan o broses ymgynghori cyhoeddus.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams nad ydy cysylltu amodau gwaith athrawon Cymru 芒 rhai athrawon Lloegr "yn briodol, yn berthnasol nag o fantais mwyach i'r proffesiwn yng Nghymru".
Mae'r pwerau'n cael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd ar 么l i Ddeddf Cymru ddod i rym eleni.
Dywedodd Ms Williams: "Bydd y gr诺p yn adolygu trefniadau presennol t芒l ac amodau athrawon ac yn ystyried manteision a rhwystrau'r system bresennol."
Bydd y tasglu'n cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru erbyn hydref y flwyddyn nesaf.
Yn 么l yr Ysgrifennydd Addysg, fe fydd y system newydd wedi ei seilio ar werthoedd Cymreig, gan gynnwys "tegwch a rhagoriaeth, ymroddiad i addysg gynhwysol a chefnogi ein hathrawon i godi safonau i bawb".
Mae rhai undebau athrawon wedi gwrthwynebu datganoli t芒l ac amodau gan ofni y gallai athrawon yng Nghymru gael telerau gwaeth nag athrawon dros y ffin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2016