91Èȱ¬

'Cwymp £370 fesul disgybl' i gyllid termau real ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi er mwyn codi safonau ysgolion

Mae cyllidebau ysgolion yng Nghymru wedi gostwng tua £370 fesul disgybl mewn termau real mewn chwe blynedd, yn ôl ymchwil gan raglen 91Èȱ¬ Cymru, Wales Live.

Mae'r cwymp, sydd wedi ei amcangyfrif, wedi ystyried effaith chwyddiant rhwng 2010/11 a 2016/17.

Yn ystod y cyfnod mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei thorri gan Lywodraeth y DU.

Ond mae gweinidogion Cymru wedi rhoi addewid i warchod ysgolion, gan ddweud eu bod yn buddsoddi er mwyn codi safonau a thargedu'r disgyblion mwyaf difreintiedig.

Dywedodd pennaeth un ysgol gynradd wrth Wales Live iddo orfod torri chwarter o'i staff, tra bod undebau'n dweud bod y toriadau yn "tanseilio" ysgolion.

Torri cyllidebau

Ers dod yn Brif Weinidog mae Carwyn Jones wedi dweud bod nawdd ysgolion yn flaenoriaeth, ac mae hynny wedi ei adlewyrchu mewn gwariant cyhoeddus o'i gymharu â meysydd eraill.

Mae mwy o arian wedi ei roi yn y gyllideb ym mhump o'r chwe blynedd rhwng 2010/11 a 2016/17, ond unwaith mae chwyddiant yn cael ei ystyried does dim modd gweld y cynnydd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgolion sydd â nifer uchel o blant sydd yn cael cinio am ddim yn medru derbyn grant gan y llywodraeth

Mae'r ffigwr fesul disgybl yn ystyried cyllideb unigol ysgol, ond hefyd arian sy'n cael ei wario'n ganolog ar ysgolion gan gynghorau.

Mae hefyd yn cynnwys nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, fel y Grant Datblygu Disgyblion, sy'n cael ei dargedu at ddisgyblion difreintiedig.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad yw'n bosib cymharu'r arian sy'n cael ei roi fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr bellach, oherwydd y newidiadau i reolaeth ysgolion Lloegr.

Ond undeb athrawon yr NASUWT yn darogan bod y bwlch rhwng y ddwy wlad yn ffafrio Lloegr cymaint â £678 fesul disgybl.

Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, cafodd gwariant dyddiol fesul disgybl yn Lloegr "i raddau helaeth ei rewi" mewn termau real rhwng 2010/11 a 2015/16.

'Ddim yn deg' ar blant

Disgrifiad o’r llun,

Steve Rees: "Mae gen i blant grêt yn yr ysgol ond dydyn nhw ddim yn cael bargen deg"

Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Evenlode ym Mro Morgannwg, Steve Rees, bod toriadau'n dechrau cael effaith.

"Mae chwarter o'r staff wedi diflannu yn y pedair blynedd diwethaf ac mae hynny yn y bôn am nad ydyn ni'n gallu fforddio eu cyflogi.

"Yn amlwg os oes gyda chi blant sy'n elwa o gael cefnogaeth ychwanegol dyw'r plant ddim yn derbyn y gefnogaeth hynny erbyn hyn.

"Mae'n golygu nad yw plant mwy abl fyddai'n gallu cael eu gwthio ymhellach yn cael eu cefnogi yn yr un ffordd.

"Mae'n gwneud i fi deimlo'n rhwystredig iawn. Mae'n gwneud i fi deimlo'n flin iawn.

"Mae gen i blant grêt yn yr ysgol ond dydyn nhw ddim yn cael bargen deg."

£93³¾

Wrth ymateb dywedodd yr ysgrifennydd addysg Kirsty Williams ar raglen Wales Live bod addysg "yn anffodus" wedi cael ei effeithio gan doriadau yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru.

"Eleni fe fyddwn ni yn gwario £93³¾ ar y plant mwyaf difreintiedig. Wnaf i ddim ymddiheuro am hynny.

"Dw i wedi bod yn glir ynglŷn â blaenoriaethu cau'r bwlch cyrhaeddiad mewn ysgolion yng Nghymru a dw i ddim yn mynd i ymddiheuro am dargedu'r arian hynny ar addysg plant sydd ei angen fwyaf.

"£20m ar addysgu plant gydag anghenion addysg ychwanegol, eto categori o blant sydd efallai yn y gorffennol ddim wedi cael y cymorth roedden nhw angen."

Ychwanegodd ei bod wedi cymryd arian o'r gyllideb addysg a'i rhoi i lywodraeth leol fel bod modd cefnogi gweithwyr ar y rheng flaen yn yr ysgolion.