Pryder Cymraes sy'n byw ar ffin Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Sut y byddech chi'n teimlo petai 'na gynlluniau i gyflwyno rheolau newydd fyddai'n rheoli sut rydych chi'n gwneud busnes gyda'ch cymdogion yn y pentre agosa'?
Dyna'n union yw'r sefyllfa sy'n wynebu teulu Gwenan Morgan Lyttle, Cymraes o Dregaron sydd yn byw ar y ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon ers iddi briodi ddwy flynedd yn 么l.
Mae Allistair, g诺r Gwenan, yn ffermio yn yr ardal ac wedi hen arfer prynu a gwerthu da byw a chynnyrch dros y ffin.
Ond mae 'na bryder y gallai ffin galed ddod i fodolaeth eto rhwng y ddwy wlad petai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Gwenan yn poeni'n fawr am y sefyllfa...
Cafodd fy ng诺r ei eni a'i fagu ar fferm tu allan i bentref bychan o'r enw Pettigo sydd yng Ngweriniaeth Iwerddon ac mae'n ffermio yno gyda'i dad.
Er fod Pettigo'n bentref bychan, mae'n adnabyddus yn hanesyddol oherwydd ei leoliad; mae'n cael ei rannu'n ddau gan yr afon Termon, sef y ffin rhwng y gogledd, sef sir Fermanagh, a'r de, sef sir Donegal.
Ers i ni briodi rydyn ni'n dau yn byw tu allan i'r pentre yng Ngogledd Iwerddon, ond rydyn ni'n teithio'n ddyddiol yn 么l ac ymlaen dros y ffin i'r fferm deuluol sydd wedi ei lleoli yn y Weriniaeth.
Brexit a'r dyfodol ansicr
Dyw Brexit ddim yn mynd i effeithio'n uniongyrchol ar bobl sy'n byw naill ai yn y gogledd neu'r de, ond i'r rhai hynny ohonon ni sy'n byw ar y ffin, mi fydd yn cael effaith sylweddol. Rydyn ni'n pryderu ar hyn o bryd oherwydd yr holl ansicrwydd... a fydd ffin gadarn eto fel y bu flynyddoedd yn 么l?
Yr adeg honno roedd Pettigo yn adnabyddus iawn gan fod nifer yn yr ardal yn smyglo nwyddau dros y ffin, ac o'r herwydd, roedd llawer o ddrwgdeimlad rhwng y bobl lleol.
Er nad ydw i'n bersonol wedi byw yma yn hir iawn, dwi'n teimlo'n gryf y byddai ffin gadarn rhwng y gogledd ar de yn ail-gynnau'r fflam unwaith eto ac yn achosi problemau i'r ffermwyr a busnesau lleol.
Rydyn ni'n ffermio bob ochr i'r ffin yn ddyddiol ac mi fyddai ffin gadarn ond yn ychwanegu at anawsterau o deithio dros y ffin, gwerthu stoc a'r holl waith papur sydd ynghlwm 芒 hynny.