Trafodaethau 'calonogol' ar newid y Mesur Diddymu
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei bod yn galonogol clywed Llywodraeth y DU yn cydnabod y bydd angen gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth Brexit.
Roedd y Prif Ysgrifennydd Gwladol Damian Green ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yng Nghaerdydd fore Iau yn cynnal trafodaethau 芒 Carwyn Jones.
Mae gweinidogion Cymru wedi beirniadu'r Mesur Diddymu - fydd yn trosglwyddo cyfreithiau'r UE i rai'r DU - gan ddweud y byddai'n cymryd pwerau oddi ar y gwledydd datganoledig.
Ar 么l pasio'r mesur, bydd pwerau dros faterion datganoledig yn cael eu cadw yn San Steffan am gyfnod, yn hytrach na chael eu trosglwyddo yn syth i'r Cynulliad.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y dylai'r dyletswyddau aros yn San Steffan i ddechrau er mwyn galluogi i fframweithiau ar faterion fel ffermio gael eu datblygu ar gyfer y DU gyfan.
'Cydweithio'
Dywedodd Mr Jones bod "rhaid i ni weld gweithredu o ran newid y mesur".
"Roedd hi'n galonogol clywed y prif ysgrifennydd gwladol yn dweud eu bod yn gwybod y bydd angen gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth," meddai.
"Ni aeth yn bellach na hynny, a dydw i ddim am siarad ar ei ran o gwbl, ond rydyn ni eisiau gweithio gyda Llywodraeth y DU i ganfod datrysiad a thynnu'r broblem yma o'r mesur."
Bydd aelodau seneddol yn pleidleisio ar newidiadau i'r mesur ddydd Llun - newidiadau sydd wedi'u cynnig gan lywodraethau Cymru a'r Alban.
Dywedodd Mr Jones bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wrthwynebu rhannau o'r mesur, ond bod Llywodraeth y DU wedi bod yn llawer mwy parod i gydweithio ers mis Medi.
Ychwanegodd Mr Cairns ei fod yn arwydd o'r berthynas bositif rhwng y ddwy lywodraeth bod neb wedi crybwyll geiriau fel "dwyn p诺er" iddo ers peth amser.