Chwilio am berchnogion Beibl teuluol
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ap锚l am wybodaeth i geisio dod o hyd i ddisgynyddion teulu oedd yn berchen ar Feibl gafodd ei brynu gan wraig o Sir Benfro yn ddiweddar.
Mae Emma Joanne Lee, sy'n prynu a gwerthu hen greiriau, wedi gadael neges ar dudalen Facebook Pembrokeshire, I love it yn gofyn am unrhyw wybodaeth am y teulu sy'n cael eu cofnodi rhwng 1840 a 1922 ar dudalennau blaen y Beibl.
Yr enw cyntaf sydd wedi ei 'sgwennu arno yw William Evans gafodd ei eni yn 1840. Bu farw yn Mount Pleasant, Hermon ger Llanfyrnach, Sir Benfro yn 1899.
Ond mae enw Mary Evans, Blaenpistyll, Hermon yn drawiadol iawn ac mae'n amlwg bod aelod artistig iawn o'r teulu wedi mynd ati i ychwanegu'r cofnod lliwgar.
Mae'r cofnodion yn dod i ben gyda marwolaeth aelod o'r teulu yn 1922.
Ydych chi'n gyfarwydd 芒 fferm Blaenpistyll neu'r teulu? Ydych chi'n gwybod unrhywbeth am berchnogion y Beibl?
Mae rhai wedi cysylltu gyda ni gydag ychydig o wybodaeth bellach.
Mae Heather Tomos sy'n ymchwilydd hanes pentref Eglwyswrw'n ein goleuo taw nid Mary Evans sydd wedi eu hysgrifennu yn drawiadol, ond os ydych yn edrych yn ofalus fe welwch mai Margaret Evans yw'r enw Margt.
Mae Heather yn mynd ymlaen i ddweud ei fod wedi gweld eu henw ar gyfrifiad o ardal Llanfyrnach gan fod Hermon yn dod o dan blwyf Llanfyrnach.
Hefyd wedi cysylltu mae Caroline o Abergwaun sy'n datgelu:
"Roeddwn yn byw drws nesa i Harry a Maggie Evans Blaenpistyll sawl blwyddyn yn 么l nawr.
"Roedd fy mam-gu yn byw yn Mount Pleasant, Hermon a'i henw oedd Margaret Taylor. Nid oedd plant gyda Harry a Maggie."
Ac mae wedi dod yn amlwg ein bod yn anghywir i gyfeirio at Blaenpistyll fel fferm. Yn 么l Bibi Griffiths o Hermon:
"Enw t欧 yng nghanol pentref Hermon yw Blaenpistyll. Yn fy amser i roedd p芒r o'r enw Harry a Maggie Evans yn byw yno.
"Rwy wedi casglu gwybodaeth am y plwyf o'r cyfrifiadau ac yn 1891 roedd yna Margaret Evans yn byw yno, roedd ei g诺r yn gweithio ffwrdd fel gl枚wr.
"31 oedd Margaret bryd hynny. Tybed a'i hi yw'r Margaret Evans fu farw yn 54 oed yn 1916?
"Rwy ddim yn meddwl fod plant gyda Harry a Maggie."
Hefyd wedi cysyltu mae Gerwyn Jones o Hermon sydd yn dweud:
"Roedd Willam a Catherine Evans yn byw yn Noble Court, Hermon yn 1871 gyda'u meibion Benjamin, John a Thomas.
"Erbyn 1881 maent yn byw yn rhif 3 Taylor's Row, erbyn hyn mae'r plant Sarah, Anne a David wedi eu geni.
"Yn 1891 mae William, Catherine, Sarah a David yn dal i fyw yn Taylor's Row, ac erbyn 1911 mae Catherine yn wraig weddw, mae'r mab John (di-briod) a'r ferch Sarah a'i g诺r William Nicholas i gyd yn byw yn 1 Pendre, Hermon."
"Er nad ydw i wedi dod o hyd i gofnod Priodas mae Benjamin Evans a'i wraig Margaret (Stehens wedi ei geni ym mhlwyf Cilrhedyn) yn byw yn Lanpistyll yn 1901, ac yn 1911 yn Blaenpistyll. Mae'r cofnod yma yn datgan eu bod yn briod ers 25 mlynedd, a bod ddim ganddynt."
Felly dyna hanes y teulu hyd yn hyn, hynny yw, os nad ydych chi'n gwybod mwy?
Cysylltwch trwy anfon e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk neu ddefnyddio'r blwch isod.