Sam T芒n yn 30!
- Cyhoeddwyd
Mae dyn t芒n mwyaf adnabyddus Cymru'n dathlu pen-blwydd arbennig iawn eleni.
Ar 17 Tachwedd 1987, cafodd Sam T芒n ei ddarlledu gyntaf ar S4C, ac mae wedi bod yn agos i galonnau cenedlaethau o blant Cymru a thu hwnt ers hynny.
Dau gyn-ymladdwr t芒n o Sir Caint gynigiodd y syniad gwreiddiol i'r dyn wnaeth greu Superted, yr animeiddiwr Mike Young.
Y cynhyrchydd teledu Nia Ceidiog gafodd y gwaith o ddod 芒'r cymeriad eiconig a thref Pontypandy yn fyw ar S4C. Bu Nia yn s么n rhagor wrth Cymru Fyw am y cymeriadau poblogaidd:
Ro'n i'n gwybod yn syth y bydda fo'n hit.
Mae plant yn uniaethu gyda phlant. Mae Norman yn hogyn drwg ond mae pawb yn ei garu fo. Mae 'na lot o hwyl ynddo fo, lot o hiwmor.
Roedd yn rhaid i Sam, fel popeth arall, symud gyda'r amser. Mae o wedi mynd yn fwy a fwy lliwgar efo defnydd helaeth o CGI.
Ond mae 'nghalon i yn dal gyda chrefft y gwreiddiol a'r gwaith rhyfeddol wnaeth yr hogia' o greu'r modelau. Mae 'na rhywbeth crefftus am hynna.