91热爆

Ailgodi llais ar 么l colli'r lleferydd

  • Cyhoeddwyd
Tudalen o wefan Prifysgol Bangor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Am y tro cyntaf bydd gwasanaeth sydd eisoes yn bodoli yn Saesneg ar gael i siaradwyr Cymraeg

Bydd prosiect gan Brifysgol Bangor yn ei gwneud hi'n bosib am y tro cyntaf i bobl sydd mewn perygl o golli'u lleferydd oherwydd clefydau fel cansyr y gwddf barhau i siarad Cymraeg gyda'u lleisiau eu hunain.

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi ennill grant o 拢20,000 i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau'r cleifion, a chynhyrchu fersiwn synthetig.

Ond fe fydd y fersiynau hyn yn swnio fel lleisiau naturiol yr unigolion yn hytrach na lleisiau synthetig cyffredinol, sy'n swnio fel robot.

Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae'r gwasanaeth yma ar gael.

Bydd yr uned yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a therapyddion lleferydd i gynnig y gwasanaeth ar draws Cymru.

'Angen technoleg o'r fath'

Dywedodd pennaeth yr uned Delyth Prys: "Fe wnaethon ni arddangos ein hadnoddau testun-i-leferydd Cymraeg ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol n么l ym mis Awst gan recordio ac adeiladu nifer o leisiau newydd yno ar gyfer ymwelwyr.

"Fe soniodd sawl un am deuluoedd a chyfeillion a oedd angen technoleg o'r fath i'w cynorthwyo i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda'u lleisiau eu hunain ar 么l eu colli."

Mae'r uned wedi bod yn arloesi ym maes technoleg lleferydd Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae hefyd yn datblygu cynorthwyydd digidol personol Cymraeg o'r enw Macsen, unwaith eto gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y gwaith o gychwyn recordio lleisiau cleifion yn cychwyn yn y flwyddyn newydd

Yn 么l prif ddatblygwr meddalwedd yr uned Dewi Bryn Jones, mae'n rhaid meddwl am ddulliau newydd a gwahanol o greu adnoddau iaith gan fod y Gymraeg yn iaith leiafrifol.

Cychwyn recordio

Dywedodd: "Diolch i lawer iawn o wirfoddolwyr, fe wnaethon ni dorfoli corpws lleferydd drwy ddefnyddio'r ap Paldaruo, a bydd y canlyniadau hynny yn bwydo i mewn i'r project hwn."

Lleisiwr ydi enw'r rhaglen newydd, a bydd y gwaith o gychwyn recordio lleisiau cleifion yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Bydd y fersiwn cyntaf yn galluogi'r defnyddiwr i deipio'i neges ar fysellfwrdd, gyda'i lais ei hun yn ei lefaru yn uchel.

Bydd fersiynau diweddarach yn caniat谩u i ddefnyddiwr ddefnyddio ei lais ar ddyfeisiau symudol gyda bysellfyrddau Cymraeg.