Staff Maes Awyr Caerdydd yn galw am 'gyflog byw go iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae 91热爆 Cymru yn deall bod staff diogelwch Maes Awyr Caerdydd yn dweud y dylen nhw gael t芒l uwch o ystyried eu cyfrifoldebau.
Yn 么l y rhai sy'n ymgyrchu dros gael y codiad, mae pobl sy'n gweithio yn y siop goffi yn cael cyflog uwch na'r rhai sy'n sgrinio teithwyr.
Mae swyddogion y maes awyr yn dweud eu bod yn anelu at dalu'r hyn sy'n cael ei alw'n "gyflog byw go iawn".
Ddydd Llun mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones gyhoeddi cyfradd "cyflog byw go iawn" ar gyfer Cymru - 拢8.75 yr awr.
'Banc bwyd yw'r cam nesaf'
Mae Citizens Cymru Wales yn galw ar y maes awyr - sy'n berchen i Lywodraeth Cymru - i dalu'r cyflog hwnnw, swm sy'n cael ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn gallu fforddio safon sylfaenol o fyw.
Does dim rhaid i gyflogwyr dalu'r gyfradd, sy'n uwch na'r cyflog byw statudol o 拢7.50 yr awr i bobl dros 25.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn dweud eu bod yn talu mwy na'r cyflog byw statudol i'w holl staff.
Dywedodd un gweithiwr sydd bellach wedi gadael oherwydd y cyflog: "Mae'r t芒l yn rhy isel. Mae prisiau popeth wedi codi ond dyw'r cyflog ddim yn adlewyrchu hynny.
"Roeddwn i'n arfer gallu cynnal fy nheulu heb fawr o drafferth ond nawr mae gennym ddyledion a'r cam nesaf fydd mynd i'r banc bwyd."
'Talu dros y cyflog byw'
Bydd llythyron yn cael eu hanfon ddydd Llun at y prif weithredwr Debra Barber ac Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn galw am weithredu ar y mater.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r "cyflog byw go iawn", ac maen nhw'n annog cyflogwyr eraill i wneud hynny.
Ond mae cwmn茂au bach a chanolig wedi dweud y bydden nhw'n ei chael hi'n anodd talu'r cyflog hwnnw.
Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd: "Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn talu pob aelod o staff yn uwch na'r Cyflog Byw Cenedlaethol ac ry'n ni'n anelu at dalu'r cyflog byw go iawn.
"Mae Maes Awyr Caerdydd yn parhau i dyfu a gwella er mwyn creu maes awyr cenedlaethol cynaliadwy i Gymru."