91Èȱ¬

Yr actor a'r dramodydd Meic Povey wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Meic Povey

Bu farw'r actor a'r awdur Meic Povey yn 67 oed.

Roedd wedi bod yn diodde' o ganser ers peth amser.

Yn wreiddiol o Nant Gwynant ger Beddgelert bu'n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer, ac roedd yn cael ei ystyried yn un o ddramodwyr a sgriptwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

Fel actor, fe ymddangosodd mewn sawl cyfres deledu Saesneg fel Minder, Doctor Who ac A Mind To Kill, ond fel awdur yr oedd yn fwyaf adnabyddus yng Nghymru.

Roedd yn un o'r bobl a greodd y gyfres Pobol y Cwm, ac roedd hefyd yn gyfrifol am waith sgriptio ar gyfresi fel Ryan a Ronnie, ac ef hefyd oedd crëwr cyfresi comedi Glas Y Dorlan yn y 1970au.

Disgrifiad,

"Treftadaeth, magwraeth... teulu hefyd, mae hynny'n bwysig iawn i mi."

Yn 1991, fe enillodd wobr Bafta Cymru am y sgript orau am ei ffilm Nel, ac yn 2005 enillodd wobr Bafta Cymru am y gyfres deledu Talcen Caled.

Yn y theatr roedd hefyd yn awdur toreithiog.

Mae cyfresi fel Byw Celwydd a Teulu hefyd yn gynnyrch ganddo ac yn dangos poblogrwydd ei waith i gynulleidfaoedd teledu, er mai ysgrifennu ar gyfer y theatr oedd ei hoff waith.

Disgrifiad,

Roedd Hywel Gwynfryn a Meic Povey yn gyfeillion ers 45 mlynedd

Wrth roi teyrnged, dywedodd y darlledwr Hywel Gwynfryn: "Mae'n anodd iawn credu na fydda i byth eto yn clywed ei lais o ar y ffôn, fel bydda fo yn fy nghyfarch i bob amser drwy ddynwared hen actorion y gorffennol yn gellweirus ac yn dweud "Gyfaill annwyl".

"Roedden ni'n 'nabod ein gilydd ers 45 o flynyddoedd pan ddaru ni gyfarfod am y tro cyntaf yn y 91Èȱ¬ yn ddau lefnyn ifanc, yn cychwyn fwy neu lai ar ein gyrfaoedd efo'n gilydd.

"Wedyn, fe ddaeth y cyfeillion yn fêts, ac o'm safbwynt i, mi ddoth Meic yn frawd i mi.

"Mae'r golled i Gymru dwi'n credu yn aruthrol, ond pa faint mwy ydy'r golled i'r teulu yn y gogledd ac yma yn y de hefyd.

"Mi ddeudodd rhywun rywbryd yndo, "Does dim rhaid i chi weld y sêr i wybod eu bod nhw yno." Wna i fyth weld Meic eto, ond mi fydd o yma o hyd, gyfaill annwyl."

Disgrifiad,

Rhoddodd Arwel Gruffydd ac Alun Ffred Jones deyrngedau ar y Post Cyntaf

Ar y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd y cyn-gynhyrchydd teledu Alun Ffred Jones mai Meic Povey oedd "y dramodydd mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol yn y 50 mlynedd diwethaf, os dachi'n meddwl am y theatr a'r byd teledu".

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffydd "nad oes modd gor-ddweud na gor-bwysleisio ei gyfraniad i fyd y ddrama Gymreig, sgrin ac ar lwyfan".

"Mi oedd yn gwybod sut i greu cymeriadau cofiadwy."

'Ffraethineb anhygoel'

Pan sefydlwyd cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn 2004, un o ddramâu Meic Povey - Yn Debyg Iawn i Ti a Fi - oedd y dewis ar gyfer y cynhyrchiad cyntaf.

Cyfarwyddwr artistig y cwmni ar y pryd oedd Cefin Roberts, a dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi'n cofio pan oeddwn yn actor craidd gyda cwmni Theatr Cymru, cael galwad i ymddangos yn y gyfres Dim ond Heddiw - fanno ddes i 'nabod o am y tro cyntaf a dyna ddechrau ar oes o gyfeillgarwch.

"Gydag o a'i ddiweddar wraig Gwenda yr oeddwn i'n aros pan y down i Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Roedd DC Jones (Meic Povey) a DS Chisholm (Patrick Malahide) yn y gyfres Minder yn nechrau'r 80au

"Roedd Meic yn actor ac yn sgwennwr - sgwennwr yn fwyaf wrth gwrs ond yn gomedïwr heb ei ail ar yr aelwyd adref.

"Roedd ganddo ffraethineb anhygoel, ac i ddweud y gwir roedd gan Gwenda hefyd ac mae llais Gwenda i'w glywed yng nghymeriadau benywaidd Meic.

"Roedd ganddo ddisgyblaeth hynod o lem wrth ysgrifennu. Dwedwch bo' fi'n mynd yno a bod Meic dal yn ysgrifennu fydda fo ddim yn dod lawr tan ei fod wedi gorffen ond yn gweiddi 'ti'n gwybod lle mae'r te a'r coffi'. Mi fyddai'n ymlacio wedyn wedi gorffen ei stint.

"Roedd yn ddyn a oedd wedi cynhyrchu gymaint. Scriptiwr oedd e'n bennaf - ond roedd yn actor ac yn mwynhau actio ond roedd yn feirniadol iawn o'i actio yn aml.

"Ond y mynydd o waith sgriptio fydd y trysor a fydd yn aros - camp anferth."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Theatr Genedlaethol

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Theatr Genedlaethol

'Dawn ryfeddol'

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, fod gan Meic Povey "ddawn ryfeddol wnaeth gyfrannu'n fawr i'r byd ffilm a theledu a theatr yng Nghymru a thu hwnt".

"Does dim amheuaeth ei fod ymhlith prif ddramodwyr Cymru yn ystod y degawdau diwethaf, gyda'r gallu i ysgrifennu adloniant poblogaidd a hefyd deunydd heriol, yn delio gyda phynciau trafod perthnasol i bobl Cymru a gyda themâu oesol am gyflwr y ddynol ryw."

Ychwanegodd: "Wrth ryfeddu at ei ddawn i greu cymeriadau cofiadwy a gafaelgar, rhaid nodi cyfresi fel Talcen Caled a Teulu, ffilmiau fel Ryan a Ronnie, Reit tu ôl i ti, Nel a Sul y Blodau heb sôn am ei swmp anferth o waith fel dramodydd llwyfan ac fel actor teledu a llwyfan yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Wrth gydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau agos, nid gormodiaeth yw dweud ein bod wedi colli cawr creadigol."

Disgrifiad o’r llun,

Meic Povey yn mwynhau ym myd y theatr

Dywedodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys 91Èȱ¬ Cymru, Sian Gwynedd: "Heb os, roedd Meic Povey yn un o'n awduron a dramodwyr mwyaf talentog a dylanwadol.

Dywedodd ei fod yn "ganolog i lwyddiant dyddiau cynnar Pobol y Cwm ac yn awdur cyfresi poblogaidd a chofiadwy fel Talcen Caled a Teulu".

"Roedd yn gynhyrchiol yn Saesneg hefyd a'i ddramau gafaelgar i'w clywed yn aml ar 91Èȱ¬ Radio 4 a'i gyfres ddrama "Curious Under the Stars" ymhlith yr uchafbwyntiau mwy diweddar.

"Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda ei deulu a'i gyfeillion."