91热爆

Wood: Angen i Plaid 'ennill ffydd' pleidleisiwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod yn rhaid i'w phlaid "ennill ffydd" y rhai sydd ddim fel arfer yn pleidleisio drostyn nhw.

Wrth annerch cynhadledd y blaid yng Nghaernarfon, awgrymodd Leanne Wood y gallai'r blaid gefnogi ail refferendwm ar Brexit os nad oes cytundeb rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Hefyd fe gyflwynodd gynlluniau i ailhyfforddi gweithwyr sy'n colli gwaith wrth i swyddi gael eu gwneud fwyfwy gan beiriannau.

Er gwaethaf adroddiadau am her bosib i'w harweinyddiaeth, dywedodd y byddai etholiad nesaf y Cynulliad yn "gyfle am newid", ac y gallai hi "arwain" y newid hwnnw.

'Llwybr newydd i Gymru'

Mewn araith oedd yn rhoi llawer o sylw i Brexit, dywedodd Ms Wood ei bod yn "derbyn bod yn rhaid i ni ennill ffydd" pleidleiswyr Cymru.

"Rydych chi newydd bleidleisio yn yr etholiad mwya' dramatig mewn degawdau," meddai.

"Ond dwi, a Phlaid Cymru, yn barod i wasanaethu'ch buddiannau chi, ac mae gennym ni'r syniadau a'r uchelgais i ddangos llwybr newydd i Gymru."

Mynnodd Ms Wood mai hi yw'r person i arwain y blaid i etholiad y Cynulliad yn 2021, er y s么n am her bosib i'w harweinyddiaeth.

Disgrifiad,

Leanne Wood yn dweud wrth gynhadledd Plaid Cymru bod "croeso" i ddinasyddion yr UE yng Nghymru "heddiw" ac "yfory"

Yn gynharach yn y dydd, fe wadodd un aelod blaenllaw - yr AC Neil McEvoy, sydd wedi'i wahardd o gr诺p y blaid ar hyn o bryd - ei fod yn paratoi i'w herio.

Roedd Simon AC Thomas hefyd wedi rhybuddio'r blaid rhag efelychu Jeremy Corbyn - arweinydd Llafur yn y DU - gan ddweud y dylai'r blaid "ddal eu tir" ar blatfform cenedlaetholgar.

Daeth hynny wedi i Rhun ap Iorwerth AC ddweud bod y blaid wedi cael blwyddyn galed, gyda'r teimlad eu bod "dan warchae" mewn etholiad cyffredinol "heriol".

Dal at ei thir hithau wnaeth Ms Wood, gan ddweud y byddai 2021 yn "gyfle am newid gwleidyddol".

"Gyfeillion, mae'n rhaid i Blaid Cymru arwain y newid hwnnw," meddai. "A dwi'n bwriadu ei arwain, fel ein hymgeisydd i fod yn brif weinidog."

Disgrifiad,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod y blaid yn teimlo'n "ddi-rym" ar adegau yn ystod etholiad cyffredinol 2017

'Rhaid dweud ffarwel'?

Gohebydd gwleidyddol 91热爆 Cymru, Aled ap Dafydd sy'n pwyso a mesur dyfodol Leanne Wood:

"Straeon gwneud ydy rhai o'r straeon am arweinwyr dan bwysau weithiau. Rhywbeth i lenwi gwagle cynhadledd sy'n argoeli i fod yn un ddifflach.

"Nid felly hon.

"Mae 'na Aelodau Cynulliad sydd am weld newid, yn awyddus i gael mwy o oleuni na thywyllwch - hynny yw, gweledigaeth bositif yn hytrach nag ymosodiadau cyson ar y Ceidwadwyr yn San Steffan a Llafur yn y Cynulliad.

"Mae sawl un yn rhannu eu rhwystredigaethau yn breifat, ond mae'r amser yn prysur ddod i gymryd y cam nesaf neu encilio."

Gallwch ddarllen rhagor gan Aled ap Dafydd yma.

O ran Brexit, rhybuddiodd Ms Wood y byddai 'na "argyfwng cyfansoddiadol" pe bai "Llywodraeth y DU yn penderfynu tynnu cenhedloedd y DU allan o'r farchnad sengl yn erbyn ewyllys eu llywodraethau a'u senedd-dai".

Pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu gadael yr UE heb gytundeb, meddai, dylai "pobl gael y cyfle i wrthod y sefyllfa erchyll honno, un ai drwy bleidlais gyhoeddus, neu ddemocratiaeth seneddol".

Galwodd hefyd am "ystod o fesurau" i amddiffyn busnesau Cymru rhag unrhyw effaith negyddol o adael yr UE.

"Un mesur o'r fath yw Cronfa Paratoi am Brexit a fwriadwyd i helpu busnesau i werthuso faint y maent yn cael eu gadael yn agored i Brexit, ac yna i gael cyngor arbenigol a chymorth ariannol," meddai.

Cydweithio ag undebau

Wrth drafod yr economi, amlinellodd Ms Wood gynlluniau i fynd i'r afael 芒'r risg i swyddi oherwydd mwy o ddefnydd o dechnoleg robotiaid mewn diwydiant.

Dywedodd y byddai'r blaid yn cydweithio ag undebau a darparwyr addysg i gynnig hyfforddiant o'r newydd i bron i 300,000 o weithwyr.

Mae cynhadledd Plaid Cymru yn parhau ddydd Sadwrn, gyda disgwyl i'r AC newydd Ben Lake - ymysg eraill - annerch y dorf.

Fe gipiodd e etholaeth Ceredigion yn yr etholiad ym mis Mehefin, wrth i'r blaid ennill un sedd ond cholli pleidleisiau ar draws Cymru gyfan.