Gallai gwariant ar iechyd yng Nghymru 'gyrraedd 56%'
- Cyhoeddwyd
Gallai gwarchod cyllid iechyd yng Nghymru wneud llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn anfforddiadwy, yn 么l adroddiad newydd.
Mae adolygiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yn dweud y gallai 56c o bob punt sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau cyhoeddus fynd i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o fewn y pedair blynedd nesaf.
Byddai hyn yn gadael llai o arian ar gyfer gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn croesawu'r adroddiad sy'n dangos y penderfyniadau anodd sy'n ymwneud 芒'r gyllideb.
Bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford yn cyhoeddi'r gyllideb nesa' ar 3 Hydref.
Toriad arall
Mae'r GIG yn derbyn 48% o gyllideb refeniw Cymru ar hyn o bryd - mae hynny'n fwy na'r 39% yn 2009-10.
Mae adroddiad gan y ddau gorff o Brifysgol Caerdydd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru, o dan gynlluniau presennol llywodraeth y DU, ddisgwyl toriad arall o 3% yn ei chyllideb ar gyfer gwariant erbyn 2021-22, a hynny ar ben toriad o 11.5% ers 2010.
Mae gweinidogion Cymru wedi addo gwarchod y GIG, ysgolion a gofal cymdeithasol i oedolion, sy'n golygu y bydd awdurdodau lleol yn cael ergyd bellach.
Gallai'r gyfran o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n mynd i'r GIG godi i 56% os yw gweinidogion am ddod o hyd i'r arian i gwrdd 芒'r galw cynyddol sy'n cael ei ragweld, medd yr adroddiad.
Mae toriadau i awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn llai nag yn Lloegr, ond gallai gwariant ar wasanaethau sydd heb eu gwarchod - fel llyfrgelloedd, ffyrdd a diwylliant - godi i 50% erbyn 2021-22.
Am y tro cyntaf fe fydd gan Mr Drakeford y dewis i godi rhai trethi yng Nghymru.
Ond credir y bydd effaith y pwerau ar wariant yn gyfyng dros y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd Ed Poole, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Mae'r pwerau treth newydd yn 2018 yn drobwynt yn hanes datganoli. Fodd bynnag, o ystyried yr ymrwymiad i beidio 芒 chodi cyfraddau treth incwm cyn 2021-22, bydd yn cymryd amser iddynt wneud gwahaniaeth ac efallai mai ychydig iawn o effaith a welir ar lefel gwariant cyhoeddus yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf.
"Pe byddai Cymru yn parhau i ddiogelu'r arian a roddir i'r GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ac ysgolion, byddai'n golygu cyfnod arall o doriadau i fyd llywodraeth leol a'r gwasanaethau cyhoeddus 'sydd heb eu diogelu'. Mewn un sefyllfa gredadwy, gallai'r gwasanaethau hyn wynebu bron 50% o doriadau erbyn 2021-22 o gymharu 芒 2009-10."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU ar sawl achlysur i ddod a'r agenda llymder yma i ben, sydd wedi arwain at doriadau yn ein cyllid ers 2010.
"Byddwn yn amlinellu drafft ar gyfer y gyllideb ar 3 Hydref, fydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu sefydlogrwydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod o ansicrwydd."