Cannoedd mewn cyfarfod i drafod carchar Baglan
- Cyhoeddwyd
Roedd dros ddau gant o drigolion lleol yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberafan nos Fercher i drafod y carchar a ystyrir ei godi ym Maglan .
Cyn derbyn cwestiynau gan y trigolion bu gwleidyddion lleol, swyddog ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac aelod o gr诺p gwrthwynebu lleol yn cyflwyno eu hachos.
Pan ofynnwyd i'r gynulleidfa a oeddent o blaid y carchar dywedont yn unfrydol nad oeddynt.
Roedd y rhan fwyaf o'r cwestiynau a ofynnwyd wedi cael eu cyfeirio i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Roedd llawer yn poeni y byddai'r carchar yn agos i nifer o ysgolion.
Mi fyddai lle yn y carchar i 1,600 o garcharorion.
Cafodd nifer o gwestiynau eu gofyn hefyd ynglyn ag israddio statws gorlifo y tir a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer datblygu.
'O fudd economaidd'
Yn ystod y cyfarfod cafodd deiseb ei rhannu yn gofyn i Lywodraeth Cymru beidio 芒 gwerthu'r tir ym Maglan i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins, "Efallai y bydd hi'n orfodol i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder brynu'r tir gan Lywodraeth Cymru. Allwn ni ddim gadael hyn i ddigwydd."
Maes o law, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i gasglu barn y gymuned ar y carchar categori C.
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai carchar newydd yn dod 芒 buddiannau economaidd i'r ardal.