Gwahardd Neil McEvoy eto am 'dorri rheolau' Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi pleidleisio'n unfrydol dros wahardd Neil McEvoy o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad.
Mewn llythyr at aelodau'r blaid, dywedodd yr arweinydd Leanne Wood fod Mr McEvoy wedi ei whardd am fynd yn groes i reolau'r blaid.
Dywedodd ffynhonnell o'r blaid fod y gwaharddiad hwn yn wahanol i'r ymchwiliad mewnol sy'n cael ei gynnal i'w ymddygiad.
Mae Neil McEvoy wedi dweud y bydd yn parhau i "ofyn cwestiynau anodd" yn y Senedd er gwaethaf y gwaharddiad.
Torri safonau
Yn unol 芒 safonau ymddygiad y blaid, mae'n rhaid i ACau "dderbyn cyfrifoldeb i'r genedl a'r blaid i ymddwyn yn briodol a chywir bob amser" a "rhaid peidio 芒 gweithredu mewn modd sy'n dwyn anfri ar y gr诺p na'r blaid".
Yng nghyfarfod gr诺p wythnosol Plaid Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth, penderfynodd aelodau'r blaid nad oedd Mr McEvoy wedi cadw at y safonau hynny.
Cyfeiriodd ffynhonnell o'r blaid at sylwadau ar-lein AC Canol De Cymru yn gwrthwynebu polisi i roi'r gorau i werthu tai cyngor - polisi Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gefnogi gan Blaid Cymru.
Dywedodd Mr McEvoy y byddai'n parhau gyda "busnes fel arfer" yn ei waith fel Aelod Cynulliad.
"Dwi'n mynd i barhau i ofyn cwestiynau anodd yma yn y Senedd," meddai.
Ychwanegodd nad oedd wedi cael gwybod am ba mor hir y mae wedi ei wahardd, ac os yw'n waharddiad dros dro neu'n un parhaol.
Ond mynnodd nad oedd ef yn bersonol yn rhwystr i Blaid Cymru, a'i fod yn ystyried ei hun fel rhywun oedd yn rhannu'r un safbwyntiau 芒 "mwyafrif" yr aelodaeth.
"Yn fy marn i mae'n rhaid i chi ddim ond weld y gefnogaeth [i'r] blaid yn ein prifddinas nawr," meddai.
"Mae t卯m gyda ni yng Nghaerdydd, 'dan ni'n gweithio ar y stryd ac ar y drysau, 'dan ni'n gweithio gyda phobl drwy'r amser, ac mae llawer o gefnogaeth [tu] allan i'r Senedd i Blaid Cymru nawr yng Nghaerdydd ac yn yr ardal."
'Aflonyddwch'
Wrth ysgrifennu at aelodau'r blaid ar 么l y penderfyniad, dywedodd Leanne Wood: "Wrth fynd yn groes i nifer o Orchmynion Sefydlog Gr诺p y Cynulliad a'n C么d Ymddygiad, mae wedi tynnu sylw a chreu aflonyddwch.
"Fel Arweinydd, ni allaf ganiat谩u i aelodau etholedig weithredu mewn ffordd sy'n niweidiol i'r blaid.
"Rydym yn blaid ac yn bwysicaf oll, yn d卯m. Mae'n ddyletswydd arna i i beidio 芒 chaniat谩u ymddygiad sy'n tanseilio ei undod a'i gyfanrwydd.
"Edrychaf ymlaen at symud y Gr诺p Cynulliad ymlaen yn gryf ac unedig, gan ganolbwyntio'n llawn ar y dasg o herio'r Llywodraeth Lafur a chynnig cynrychiolaeth effeithiol i bobl ar bob lefel ym mhob rhan o Gymru."
Dyma'r eildro i Mr McEvoy gael ei atal gan gr诺p Cynulliad y blaid.
Ym mis Mawrth, cafodd ei wahardd am gyfnod wedi iddo gael ei wahardd am fis o'i swydd fel cynghorydd yng Nghaerdydd am sylwadau wnaed ganddo wrth un o swyddogion y cyngor.
Mae gan Mr McEvoy yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017