91热爆

'Dylai Amgueddfa Cymru godi t芒l am rai arddangosfeydd'

  • Cyhoeddwyd
Dinosaur BabiesFfynhonnell y llun, Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae arddangosfa Deinosoriaid yn Deor yng Nghaerdydd yn codi t芒l o 拢7 i oedolion a 拢3 i blant

Dylai'r Amgueddfa Genedlaethol godi t芒l am arddangosfeydd arbennig a phenodi cyfarwyddwr masnachol er mwyn cynyddu'r incwm, yn 么l adolygiad sydd wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd gweithgareddau'r Amgueddfa Genedlaethol eu hasesu gan Dr Simon Thurley ar ran Llywodraeth Cymru, a'i brif argymhelliad oedd y dylai'r amgueddfa "gyflwyno system codi arian addas".

Roedd yna argymhelliad hefyd i reolwyr yr Amgueddfa Genedlaethol i adennill ymddiriedaeth y staff ac undebau wedi anghydfod diwydiannol hir.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates er mwyn edrych ar lwyddiant a chynaliadwyedd.

Ffynhonnell y llun, LucasFilm/Lucas Museum of Narrative Art
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cot, het a chwip Indiana Jones yn cael eu harddangos

Mae'r Amgueddfa, sy'n gyfrifol am saith safle ar draws Cymru, wedi dechrau codi t芒l am rai arddangosfeydd gan gynnwys arddangos props ffilm Indiana Jones ac arddangosfa ddeinosoriaid yng Nghaerdydd.

PRIF ARGYMHELLION

  • Codi t芒l rheolaidd am arddangosfeydd arbennig

  • Penodi cyfarwyddwr masnachol er mwyn cynyddu'r incwm

  • Adennill ymddiredaeth staff wedi anghydfod diwydiannol

Gwelliannau

Mae argymhellion Dr Thurley yn annog Llywodraeth Cymru i roi mwy o ryddid masnachol i'r Amgueddfa Genedlaethol - mae'r amgueddfa yn denu grant blynyddol o 拢21.8m o goffrau'r llywodraeth.

Mae e hefyd yn galw ar yr ymddiriedolwyr i edrych eto ar sgiliau y t卯m rheoli ac i benodi cyfarwyddwr masnachol "ar gyflog a fyddai'n denu person sydd 芒 phrofiad eang o ddelio ag atyniadau ymwelwyr."

Er i'r grant sy'n cael ei roi i'r Amgueddfa Genedlaethol gynyddu yn 2017/18 mae'r amgueddfa yn y gorffennol wedi cael llai o gyllid ac fe arweiniodd hynny at ddiswyddo staff ac anghydfod diwydiannol hir.

Ffynhonnell y llun, Yr Amgueddfa Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arddangosfa Deinosoriaid yn Deor yn cynnwys sgerbydau a replicas deinosoriaid maint llawn, modelau o embryonau ac wyau deinosoriaid y gellir eu cyffwrdd, a nyth deinosor enfawr

Ers 2014 mae nifer o staff wedi streicio oherwydd y newidiadau i'r t芒l am weithio dros y penwythnos ac fe arweiniodd hynny at gau nifer o safleoedd yr amgueddfa ar adegau heb fawr o rybudd. Daeth yr anghydfod diwydiannol i ben ym Mehefin 2016.

Yn yr adolygiad mae Dr Thurley, sy'n cyn brif weithredwr English Heritage, wedi galw ar fwrdd yr amgueddfa a'r Llywodraeth i "gefnogi uwch reolwyr ar frys er mwyn adennill ymddiriedaeth staff a'r undebau".

Gan i'r anghydfod a'r cwtogi a wnaed i gyllideb yr amgueddfa roi pwysau ar y berthynas rhwng rheolwyr yr amgueddfa a Llywodraeth Cymru mae Dr Thurley yn galw ar i'r ddwy ochr "gydnabod a deall achos y rhwystredigaethau sy'n bodoli ar hyn o bryd".

Dywedodd hefyd bod yn rhaid i'r ddwy ochr ddatblygu gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer yr amgueddfa gan ffocysu ar y pum mlynedd nesaf. Nododd bod angen cytundeb ariannu tair blynedd a bod angen i'r amgueddfa "sicrhau Llywodraeth Cymru bod ganddynt y gallu i weithredu strategaeth".

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates "ei fod wedi'i ymrwymo i sicrhau fod sefydliadau treftadaeth yn manteisio i'r eithaf ar y buddion economaidd y maent yn ei gyflwyno i bobol Cymru".

Croesawu'r argymhellion

Mae argymhellion yr adolygiad wedi cael eu croesawu gan gyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa, David Anderson.

Dywedodd: "Ry'n yn cydnabod yr angen i wneud gwelliannau mewn rhai meysydd gan gynnwys creu incwm a chysylltiadau diwydiannol ac y mae argymhellion a sylwadau Dr Thurley yn darparu fframwaith ddefnyddiol ar gyfer hynny."