91热爆

Brexit: Pryder am fenthyciadau tai fforddiadwy i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Tai yn cael eu hadeiladuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru eisiau benthyg 拢200m i adeiladu 13,000 o dai

Fe allai Brexit achosi trafferth i gynlluniau i adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru, yn 么l un corff yn y maes.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) yn dweud y gallai ansicrwydd am berthynas Prydain a'r Undeb Ewropeaidd effeithio ar nawdd pwysig o Fanc Buddsoddi Ewrop.

Daw'r rhybudd wrth i'r trafodaethau Brexit ailddechrau ym Mrwsel ddydd Llun.

Gobaith CCC, sydd yn cynrychioli cymdeithasau tai, yw benthyg mwy na 拢200m er mwyn adeiladu 13,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.

Yn 么l y corff, roeddan nhw'n agos at gytundeb gyda'r banc, ond maen nhw'n dweud bod hynny ddim yn sicr bellach yn sgil Brexit.

Mae'r banc yn dweud bod yna gwymp wedi bod mewn buddsoddiadau yn y DU yn ddiweddar, ond fod rhai cytundebau wedi cael eu harwyddo ers i Erthygl 50 gael ei thanio.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un gymdeithas dai gafodd nawdd o Fanc Buddsoddi Ewrop yn gynharach eleni ydy Bron Afon

Mae'r banc buddsoddi yn rhoi benthyciadau rhad i brosiectau hir dymor mewn sawl sector.

Byddai'r cytundeb dan sylw yn golygu y byddai cymdeithasau tai yn medru benthyg arian ar gyfradd isel am 30 mlynedd er mwyn adeiladu cartrefi a chynnig prentisiaethau a rhaglenni hyfforddiant.

Dywedodd Prif Weithredwr CCC, Stuart Ropke, bod y corff yn agos at selio'r cytundeb ond nawr oherwydd ansicrwydd Brexit bod hyn ddim yn bendant.

Ychwanegodd: "Does 'na ddim prinder sefydliadau ariannol sydd eisiau buddsoddi mewn sector sydd yn llwyddiannus iawn.

"Ond roedd termau'r benthyciad gan Fanc Buddsoddi Ewrop... yn ddeniadol iawn."

"Dyw'r dewisiadau eraill ddim yn cael eu cynnig gydag amodau cystal - effaith hynny mewn gwirionedd yw y bydd miliynau o bunnoedd yn gadael y sector."

Adeiladu cannoedd o dai

Mae benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop yn aml yn hanner cyfradd masnachol sefydliadau eraill, sydd yn golygu bod gan gymdeithasau tai fwy o arian i fuddsoddi.

Yn y ddegawd ddiwethaf mae'r banc wedi buddsoddi mwy na 拢1bn yng Nghymru mewn sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, d诺r a thai cymdeithasol.

Ym mis Chwefror cafodd cymdeithas dai Bron Afon nawdd uniongyrchol o 拢30.5m gan y banc am y tro cyntaf, er mwyn codi 450 o dai.

Ond ers hynny, mae buddsoddiadau gan y banc wedi arafu ym Mhrydain.

Dywedodd llefarydd ar ran Banc Buddsoddi Ewrop eu bod nhw'n trafod gyda Llywodraeth Cymru am ffyrdd gwahanol i gael nawdd i'r sector tai cymdeithasol yn y dyfodol.