Ystyried camer芒u CCTV mewn lladd-dai ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i'w gwneud hi yn orfodol i osod camer芒u cylch cyfyng mewn lladd-dai ar draws Cymru yn cael eu hystyried.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cefnogi'r syniad ond eu bod yn edrych ar "ystod eang o safbwyntiau" ar y mater.
Daw hyn wrth i Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth Prydain, Michael Gove, gyhoeddi y bydd camer芒u CCTV yn orfodol mewn lladd-dai yn Lloegr os oes yna anifeiliaid byw yno.
Galw am gyflwyno'r un mesurau yng Nghymru mae'r RSPCA.
O dan y cynlluniau newydd yn Lloegr, bydd gan filfeddygon yr hawl i weld unrhyw ddeunydd ffilmio heb gyfyngiadau.
'Ystod o safbwyntiau'
Y nod yw gwneud yn si诺r bod safonau uchel yn eu lle er mwyn diogelu lles anifeiliaid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddant yn cadw mewn cysylltiad cyson gydag adran Defra yn ystod y cyfnod ymgynghori.
"Rydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried yr holl ymatebion i adroddiad Diogelu Lles Anifeiliaid Adeg eu lladd gan y Gr诺p Gorchwyl a Gorffen, gafodd ei sefydlu i ystyried gosod CCTV mewn lladd-dai yng Nghymru.
"Rydyn ni yn ystyried ystod eang o safbwyntiau o sawl ochr i'r ddadl cyn penderfynu ar y cam nesaf."
Dywedodd y llefarydd hefyd bod "mwyafrif" da byw yng Nghymru yn cael eu lladd mewn llefydd lle mae yna gamer芒u yno yn barod.
Mae'r RSPCA wedi dweud eu bod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r syniad ond y byddent yn hoffi gweld hyn yn dod yn rhywbeth "gorfodol".