Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gosod Cerrig yr Orsedd ar ddŵr yn Eisteddfod Caerdydd?
Fe allai Cerrig yr Orsedd fod yn arnofio ar y dŵr ym Mae Caerdydd pan fydd y brifwyl yn cael ei chynnal yn y brifddinas y flwyddyn nesaf.
Mae cadeirydd y pwyllgor gwaith, Ashok Ahir, wedi dweud wrth Newyddion 9 eu bod nhw yn edrych ar y costau o wneud hyn yn dilyn llwyddiant cae pêl droed oedd yn arnofio yn y bae yn ystod ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin.
Y gost
Cafodd y cae ei ddefnyddio i gynnal gemau 5 bob ochr fel rhan o ŵyl oedd yn croesawu'r rownd derfynol i'r brifddinas.
Dywedodd: "Mae UEFA wedi defnyddio pontoons ar gyfer y gêm 5 bob ochr mas ar y dŵr. Pam lai'r syniad o roi Gorsedd tu fas ar y dŵr?"
Mae'n dweud ei fod wedi trafod hyn gyda'r Orsedd ac nad oedd yna wrthwynebiad.
"O'n nhw ddim yn erbyn e ond wrth gwrs mae'n rhywbeth costus. Os ni yn gallu ffeindio rhywun i noddi Cylch yr Orsedd mas ar y dŵr, bydde hynna yn wych."
Bydd yr eisteddfod flwyddyn nesaf yn wahanol i'r rhai arferol am na fydd yna faes traddodiadol na thaliad a mynedfa i ddod i mewn.
Er hynny fe fydd yna faes carafannau a Maes B a bydd y cystadlu a'r pebyll wedi gwasgaru ar draws canol y brifddinas.
Tocynnau i'r pafiliwn?
Ond mae'n bosib y bydd tocynnau yn cael eu gwerthu ar gyfer y pafiliwn fydd yn digwydd yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae mwy o drafod i wneud ar y mater yma meddai Ashok Ahir.
"Ni dal angen gweithio mas yn bendant beth fydd y sefyllfa ar y diwrnodau mwyaf poblogaidd. Mae rhai pobl wedi gofyn os ydyn nhw yn gallu prynu tocynnau.
"Ni yn trafod yn fewnol ac yn trafod gyda swyddogion y 'steddfod os fyddwn ni efallai angen system ar gyfer rhai sesiynau poblogaidd iawn.
"Ond os mae rhywun arall eisiau mynd mewn ac mae 'na lefydd ar gael, wrth gwrs maen nhw yn gallu mynd mewn.
"Ond falle bod ni angen gweithio mas ar gyfer dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn bendant."
Gobaith arall y cadeirydd yw denu nawdd trwy'r noddwyr.
"Mae gennym ni targed falle bach yn fwy uchelgeisiol o ran noddwyr. Ni yn y brifddinas. Ni yn gwneud gŵyl hollol wahanol i 'steddfod sydd wedi cael ei gynnal yng Nghaerdydd o'r blaen.
Codi arian
"So falle byddwn ni yn gallu denu mwy o incwm gan noddwyr achos mae'n ŵyl am ddim...
"Mae gennym ni brif noddwyr sydd yn cefnogi'r 'steddfod blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dw i eisiau gweld rhai newydd yn dod mewn yn bendant i gefnogi'r syniad o ŵyl am ddim."
Hyd yn hyn mae'r pwyllgor gwaith wedi codi £100,000 tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf.
Y targed ariannol yw £325,000.