91热爆

Pwyllgor UKIP i drafod dyfodol Michelle Brown

  • Cyhoeddwyd
Michelle BrownFfynhonnell y llun, UKIP

Bydd Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) UKIP yn cwrdd yn hwyrach i drafod galwad i hepgor AC rhanbarthol y blaid yng Ngogledd Cymru.

Fe ysgrifennodd aelodau'r blaid yn y gogledd at yr NEC fis diwethaf i ofyn iddyn nhw weithredu yn erbyn Michelle Brown.

Cafodd y llythyr ei ddanfon cyn bod recordiad wedi cael ei ryddhau o Ms Brown yn defnyddio term hiliol wrth s么n am Aelod Seneddol.

Mae UKIP yn ymchwilio i'r mater hwnnw.

Bydd cyfarfod yr NEC yn canolbwyntio ar gymeradwyo rhestr derfynol o ymgeiswyr ar gyfer etholiad arweinyddiaeth UKIP.

Arweinyddiaeth

Mae 11 ymgeisydd wedi gwneud cais ar gyfer y gystadleuaeth i olynu Paul Nuttall fel arweinydd yn dilyn ei ymddiswyddiad pan fethodd y blaid ennill yr un sedd yn yr etholiad cyffredinol fis diwethaf.

Mae'r rhestr yn cynnwys Anne Marie Waters, sylfaenydd y gr诺p 'Sharia Watch' sydd wedi disgrifio Islam fel crefydd ddieflig.

Dywedodd AC UKIP, David Rowlands, ei fod e'n amau a fydd pwyllgor gwaith UKIP yn caniat谩u i Ms Waters sefyll fel ymgeisydd achos bod ei safbwyntiau hi'n "rhy eithafol".

Ond mae hi'n dadlau bod y blaid yn ceisio ei gwthio allan.

Rhai o'r bobl eraill sy'n gobeithio cael eu dewis i fod yn ymgeisydd ar gyfer y gystadleuaeth yw'r ymgyrchydd John Rees-Evans, AC Cynulliad Llundain Peter Whittle ac ASE yr Alban David Coburn.

Ymgeiswyr Arweinyddiaeth UKIP:

  • David Allen

  • Henry Bolton

  • David Coburn

  • Jane Collins

  • David Kurten

  • Marion Mason

  • Aidan Powlesland

  • John Rees-Evans

  • Ben Walker

  • Anne Marie Waters

  • Peter Whittle

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod yr NEC yn disgwyl cyhoeddi rhestr terfynol o ymgeiswyr erbyn diwedd dydd Gwener.

Ymddygiad 'anghwrtais'

Mewn e-bost at Shaun Owen, ysgrifennydd cangen UKIP yn Delyn, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Blaid, Adam Richardson, y byddai'r alwad i hepgor Michelle Brown hefyd yn cael ei drafod "yng nghyfarfod nesaf {yr NEC} ar 11 Awst".

Yn ei lythyr i'r NEC, dywedodd Mr Owen, "bod canghennau gogledd Cymru'n galw ar y brif swyddfa i ddad-ddewis/cael gwared ar Ms Brown fel cynrychiolydd UKIP ar y lefel leol ac fel ein cynrychiolydd yn y Cynulliad.

"Am beth amser, cawsom ein syfrdanu gan ymddygiad haerllug ac anghwrtais Ms Brown tuag at UKIP yn lleol.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pan benderfynodd cyn arweinydd UKIP, Paul Nuttall i ymddiswyddo dywedodd ei fod yn hyderus bod gan y blaid "ddyfodol disglair"

"Mae ei diffyg ymdrech i gynrychioli'r blaid yn lleol ac yn genedlaethol yn peri pryder i aelodau ar draws y rhanbarth."

Ychwanegodd ei fod yn credu y byddai aelodau yn rhoi'r gorau i gefnogi UKIP pe bai Michelle Brown yn parhau yn y r么l.

'Gr诺p dibwys'

Ond mae llefarydd ar ran gr诺p Cynulliad y blaid wedi wfftio'r llythyr gan ddweud ei fod wedi cael ei hysgrifennu gan "gr诺p bychan a dibwys".

O dan reolau'r Cynulliad, ni fyddai UKIP yn gallu "cael gwared" ar Ms Brown fel AC ar ran Gogledd Cymru.

Pe bai UKIP yn penderfynu ei thaflu allan o'r gr诺p, fe fyddai'n parhau fel aelod annibynnol ar gyfer y rhanbarth fel sydd eisoes wedi digwydd i AC arall y blaid yn y gogledd, Nathan Gill.