91热爆

Brwydr ddyddiol y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Esyllt SearsFfynhonnell y llun, Esyllt Sears

Mae Esyllt Sears yn fam i ddau o blant ifanc. Yn wreiddiol o Bow Street, Aberystwyth, mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mro Morgannwg ac yn magu ei phlant trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond dyw hynny ddim wastad yn broses hawdd. fe gafodd cryn dipyn o ymateb, felly fe ofynnodd Cymru Fyw iddi ymhelaethu...

'Dyw'r ci ddim yn deall Saesneg, bach'

Ma' magu plentyn i siarad Cymraeg yn naturiol a greddfol yn blydi anodd ac yn cyfrannu tuag at 80% o'n anxiety dyddiol i.

'Wi 'di teimlo fel hyn byth ers i'r ferch ddechre mewn meithrinfa yn flwydd oed ac mae e wedi cynyddu ar 么l iddi weiddi "I'm coming, mummy" arnai wrth i ni adael am yr ysgol un bore.

Falle i fi gael fy magu mewn rhyw swigen fach swatlyd Gymreig. O 1981-1999, Cymraeg oedd iaith popeth i fi - adre, wrth chwarae, ar y teledu (pan gathon ni deledu), yn yr ysgol... Rhydypennau rules, gyda llaw.

Felly pan gwrddais i 芒'r g诺r (Sais), 芒'r ddau ohonon ni'n byw yn Llundain ar y pryd, nes i'n si诺r bod e'n gwbod mai yng Nghymru fydden i moyn magu teulu: "Not least because I want any kids we have to receive a Welsh language education. People fought hard to ensure..." Diolch byth bo' ni 'di priodi achos ro'dd fy "sweet nothings" i bach yn ddiffygiol.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Esyllt gyda'i phlant

Symud i Gymru wnaethon ni, dysgu Cymraeg mae e wedi neud. Fflips, uniaith Gymraeg yw'r ci!

Ac o'r holl bethau wnes i ystyried fel bygythiadau i iaith gyntaf fy mhlant, wnes i byth feddwl y byddai eu hanfon i feithrinfa/ysgol Gymraeg yn achosi cymaint o bryder.

Peppa Pig a iaith Disney

Ymhell o feio'r meithrinfeydd/ysgolion eu hunain, dwi o'r farn nad oes gan Lywodraeth Cymru - ac o ganlyniad y sector addysg yng Nghymru - ddealltwriaeth gyfoes, berthnasol o anghenion plant iaith gyntaf nac ail iaith.

N么l yn Nyfed yr 80au, roedd mwy o blant iaith gyntaf nag ail iaith yn yr ysgolion Cymraeg, a'r rhan fwyaf o'r rhai iaith gyntaf yn dod o deuluoedd cwbl Gymraeg. Ond dyw hynna ddim yn wir heddiw.

Mae angen dathlu hyn, wrth gwrs. Bois, 'wi'n trio perswadio ffrind di-Gymraeg i anfon ei phlentyn i ysgol Gymraeg ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Fflips, uniaith Gymraeg yw'r ci!"

Ond mae hefyd angen cofio am y ganran fechan o blant sy' 芒'u hiaith yn cael ei boddi gan iaith Disney, y cyfryngau cymdeithasol, y teulu yng nghyfraith, yr ymwelwyr iechyd, y cymdogion...

Mae angen arweiniad addas ar ysgolion a meithrinfeydd i sicrhau fod y plant yma yn medru datblygu eu hiaith yn hyderus a dylanwadu'n bositif ar blant ail iaith.

Sai'n berson militant, gwrth-Seisnig. 'Wi'n credu ei bod hi'n bwysig bod 'y mhlant i'n gwerthfawrogi eu hunaniaeth Gymreig a Seisnig. Ond pan mae'n dod i'r iaith, 'wi'n teimlo'n amddiffynnol iawn. (20 mlynedd yn ddiweddarach a 'wi dal yn gorfod cwyno am slips "talu mewn" uniaith Saesneg yn y banc *rolio'r llygaid*).

Ro'n i am i fy mhlant gael y sylfaen orau bosib yn y Gymraeg, cyn i'r dylanwadau Saesneg dynnu eu sylw nhw. Ond mae hynna wedi dechrau'n barod. Lot cynt nag o'n i wedi disgwyl.

Efallai o ddiddordeb...

Acen Saesneg fy merch yw acen Saesneg Peppa Pig. PEPPA PIG! A hithe'n ddisgynnydd teuluoedd glofaol ac amaethyddol Cymreig (y ferch, ddim Peppa, obvs).

A'r Saesneg yma yw iaith reddfol ei chwarae ar hyn o bryd - gyda'i ffrindiau Cymraeg eu hiaith, ei chyfnither (Cymraeg) ac yn gynyddol, ei brawd (sy' methu siarad eto, ond dal, Cymraeg).

Felly dyma fi, fel cannoedd o rieni eraill, yn ymladd brwydr ddyddiol ac yn gofyn i Carwyn Jones ystyried, ar ba ffurf yr hoffai ei filiwn o siaradwyr Cymraeg? Yn medru'r iaith ond ddim yn ei defnyddio? Yn tico bocsys ac yn ddigon ar gyfer datganiad bach taclus i'r wasg? Neu'n hyderus a siaradus ac yn ennyn brwdfrydedd unigolion ail iaith?

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears