91热爆

Disgwyl agor ysbyty newydd 拢350m blwyddyn yn gynt

  • Cyhoeddwyd
ysbyty newyddFfynhonnell y llun, BIP Aneurin Bevan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr ysbyty newydd ar hen safle Ysbyty'r Grange

Bydd y gwaith o adeiladu ysbyty gofal critigol newydd gwerth 拢350m yn Nhorfaen yn dechrau ddydd Llun.

Mae disgwyl iddo gynnwys 470 o welyau, ac mae'r bwrdd iechyd yn dweud y bydd yn agor i gleifion yng ngwanwyn 2021 - blwyddyn yn gynt na'r bwriad gwreiddiol.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi mai enw'r ysbyty newydd yng Nghwmbr芒n fydd Ysbyty Prifysgol y Faenor.

Ar 么l cael ei adeiladu bydd y cyfleuster yn trin cleifion yn ardal Gwent y mae arnynt angen gofal brys cymhleth ac ac铆wt, a bydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer darparu asesiadau arbenigol 24 awr, gofal dwys, diagnosteg gynhwysfawr, gwelyau cleifion mewnol ar gyfer achosion difrifol brys a llawdriniaeth gymhleth, a theatrau.

Gwella ansawdd gofal

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Fe fydd yr ysbyty hwn yn ymgasglu gwasanaethau cymhleth a mwy ac铆wt ynghyd ar un safle.

"Fe fydd yn gwella ansawdd y gofal a roddir i'r cleifion mwyaf s芒l."

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych gan bobl leol sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd gan eu bod yn deall y manteision a ddaw o gael yr ysbyty hwn, a model gofal iechyd newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

"Hoffwn ddiolch i'n staff am eu gwaith caled i sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt hwn, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n staff, ein cymunedau lleol, a Gleeds a Laing O'Rourke i gael ysbyty newydd y gallwn ni i gyd ymfalch茂o ynddo."