Agor ailddatblygiad 拢30m Amgueddfa Werin Sain Ffagan

Ffynhonnell y llun, Adam Davies

Disgrifiad o'r llun, Mae'r atriwm yn rhan o ddatblygiad gwerth 拢30m yn y ganolfan

Bydd mynediad newydd i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, sy'n rhan o ailddatblygiad gwerth 拢30m, yn cael ei ddadorchuddio ddydd Iau.

Mae gweithdy newydd - adeilad ar gyfer gwneud crefftau - hefyd yn cael ei agor.

Mae disgwyl i'r cynllun adnewyddu, y mwyaf yn hanes yr amgueddfa, gael ei gwblhau erbyn Hydref 2018.

Dyma'r cyfnod mwyaf o newid yn hanes yr amgueddfa ers ei sefydlu'n 1948.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru

Disgrifiad o'r llun, Y gweithdy newydd

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru

Mae prif adeilad y ganolfan, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, wedi ei adnewyddu ac mae mwy o le cyhoeddus bellach.

Yn ogystal, mae'r hen iard wedi cael t么 er mwyn creu atriwm a mynediad newydd, ac mae cyfleusterau newydd i ymwelwyr.

Yn y gweithdy, bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i roi cynnig ar grefftau a sgiliau traddodiadol mewn cyrsiau a gweithdai.