91热爆

Cyhoeddi adolygiad annibynnol o r么l Estyn ym maes addysg

  • Cyhoeddwyd
meilyr rowlands
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meilyr Rowlands yn credu byddai barn annibynnol yr Athro Donaldson o "fudd" i'r maes addysg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol o r么l y corff arolygu ysgolion, Estyn.

Daeth y cyhoeddiad wedi penderfyniad ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, a phrif weithredwr Estyn, Meilyr Rowlands, ac fe fydd yr Athro Graham Donaldson yn rhoi ei farn annibynnol.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar oblygiadau'r diwygiadau helaeth ym maes addysg yng Nghymru, a chyd-destun r么l Estyn yn y dyfodol.

Yn 么l llythyrau rhwng Ms Williams a Mr Rowlands, byddai adolygiad annibynnol yn datblygu cryfderau Estyn, ac yn gwella gwaith yr arolygiaeth ymhellach.

Diwygiadau addysg

Dywedodd Ms Williams: "Rwy'n ddiolchgar i Meilyr am gynnig y cam gweithredu hwn. Rwy'n gwbl gefnogol o'r cynnig, er mwyn i ni barhau i wella safonau yn ein system addysg.

"Rhaid i'n diwygiadau ym maes addysg gefnogi'r gwaith o gyflwyno ein cwricwlwm newydd. Felly, rwy'n hynod o falch bod yr Athro Donaldson wedi cytuno i gynnal yr adolygiad.

"Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn cynnal adolygiadau o systemau addysg ar draws y byd, gan gynnwys Awstralia, Portiwgal, Sweden a Japan."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kirsty Williams yn "gwbl gefnogol" i gynnig Mr Rowlands

Dywedodd Meilyr Rowlands: "Mae newidiadau sylweddol yn digwydd i'r byd addysg yng Nghymru, ac mae'r gwaith arolygu yn newid hefyd.

"O ystyried mai cenhadaeth Estyn yw sicrhau rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru, rydyn ni'n credu y bydd o fudd i gael barn annibynnol gan yr Athro Donaldson."

Adolygiad

Dywedodd yr Athro Donaldson: "Mae gan Estyn ran hanfodol i'w chwarae mewn perthynas 芒 llwyddiant y rhaglen ddiwygio yng Nghymru.

"Felly, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet a'r Prif Arolygydd wedi gofyn i mi gynnal adolygiad annibynnol o'r modd y gall ei gyfraniad at y diwygiadau gael ei wireddu orau."

Bydd yr Athro Donaldson yn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a'r Prif Arolygydd ar 么l iddo gasglu a dadansoddi tystiolaeth ar arolygiadau, gwella ansawdd ac atebolrwydd.

O wneud hynny, bydd yn helpu Estyn i fireinio a datblygu eu harferion.

Bydd cylch gorchwyl yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi yn fuan ar wefan Estyn.