91热爆

Gweithgareddau Tafwyl 2017 wedi dechrau yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
TafwylFfynhonnell y llun, TAFWYL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr 诺yl yn symud i leoliad newydd dros dro o Gastell Caerdydd i gaeau Llandaf

Mae g诺yl gymunedol fwyaf Cymru, Tafwyl, wedi dechrau yng Nghaerdydd gyda nifer o weithgareddau wedi'i threfnu dros wyth niwrnod.

Mae'r digwyddiadau amrywiol yn cynnwys gwledd o gerddoriaeth, llenyddiaeth, teithiau tywys, bwyd a diod, digwyddiadau i ddysgwyr ac i blant ar draws Caerdydd.

Bydd nifer o leoliadau yn cael ei defnyddio ar hyd y brifddinas gan gynnwys San Ffagan, Canolfan y Chapter a Chlwb Ifor bach.

I goroni'r 诺yl bydd cyngerdd yn digwydd ar 1 - 2 Gorffennaf ar gaeau Llandaf ble mae disgwyl mwy na 36,000 o bobl fynychu i wrando ar ai o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin roc Gymraeg.

'Diwylliant ar ei orau'

Dywedodd trefnydd yr 诺yl Llinos Williams o Menter Caerdydd: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu wynebau cyfarwydd a chwrdd ag wynebau newydd wrth i ni symud Tafwyl i Gaeau Llandaf am flwyddyn.

"Mae'r line up eleni i fyny gyda'r gorau erioed, ac yn dangos ein diwylliant ar ei orau."

Ymysg rhai o'r artistiaid fydd yn perfformio fydd, Yws Gwynedd, Alys Williams, Bryn F么n, Geraint Jarman, Kizzy Crawford,

Bydd Meic Stevens, Candelas a HMS Morris hefyd ymhlith y bandiau fydd yn perfformio ar draws tri llwyfan yn ystod y digwyddiad eleni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Alys Williams ymhlith yr artistiaid fu'n perfformio eleni

Lleoliad newydd

Mae'r 诺yl wedi symud o Gastell Caerdydd i leoliad newydd dros dro ar gaeau Llandaf yn y brifddinas.

Mae rhai o'r pebyll oedd fyny yng Nghastell Caerdydd ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ddechrau fis Mehefin yn parhau i gael ei tynnu i lawr, sy'n golygu na fydd y Castell yn barod i lwyfannu Tafwyl.

Dywedodd un o lysgenhadon Tafwyl, y DJ Huw Stephens: "Mae Tafwyl yn dod 芒 chymaint o artistiaid cerddorol anhygoel at ei gilydd i Gaerdydd bob blwyddyn.

"Mae'r rhestr eleni yn dangos pa mor eclectig a diddorol ma' pethe ar hyn o bryd.

"A bydd llwyfan Yurt T yn dod a bandiau newydd i gynulleidfa newydd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Huw Stephens bod y rhestr artistiaid eleni 'yn dangos pa mor eclectig a diddorol ma' pethe ar hyn o bryd'.