91热爆

Seren yn gwenu'n ddisglair

  • Cyhoeddwyd
Irfon a Nia Cerys

Yr wythnos hon bu farw'r ymgyrchydd canser, Irfon Williams, yn 46 mlwydd oed. Un a oedd yn ei adnabod yn dda oedd y newyddiadurwraig, Nia Cerys. Yma, mae'n talu ei theyrnged bersonol hi i Irfon:

Anodd credu'r egni

Prin ydy'r bobl mewn bywyd sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn - i eraill o'u cwmpas, ond hefyd i gymdeithas gyfan drwy frwydro yn erbyn annhegwch ac anghyfiawnder. Un o'r rheiny oedd Irfon Williams.

Mae'r erthyglau a theyrngedau lu sydd wedi ymddangos dros yr oriau diwetha' yn cyfeirio at bopeth wnaeth o dros gleifion canser, gan gynnwys sefydlu elusen T卯m Irfon ac ymgyrch Hawl i Fyw.

Ond ar lefel fwy bersonol, roedd o hefyd yn glust i gymaint o gleifion neu berthnasau oedd yn wynebu cyfnodau anodd.

Roedd ganddo ffordd mor addfwyn gyda phobl, a wastad yn barod ei gyngor a'i amser. Oni bai am ei arweiniad i'n teulu ninnau, dwi ddim yn si诺r fyddai fy Nhad wedi mentro ar driniaeth chemotherapi.

Roedd geiriau doeth Irfon yn gysur iddo fo a ni, fel i sawl un arall. Mae Irfon wedi rhoi'r gobaith a'r hyder i gymaint sy'n brwydro'r salwch creulon yma.

Roedd yn ddiflino a phenderfynol yn ei agwedd i helpu eraill yn sgil ei brofiadau anodd ei hun. Ac mi lwyddodd.

Trwy gydol ei salwch, roedd ei gryfder a'i gariad at fywyd a phobl yn ei ddiffinio. Droeon roedd teulu a ffrindiau'n dweud wrtho i orffwys, i ganolbwyntio ar ei wellhad ei hun. Ond i Irfon, am wn i fod helpu eraill yn gystal ffisig ag unrhyw un.

Dwi'n dal yn methu credu'r fath egni oedd ganddo i gario 'mlaen i frwydro ym mhob ffordd ar waetha' ei waeledd.

Wnaeth ei salwch ddim ei stopio rhag cael hwyl chwaith - roedd o'n sicr yn gwybod sut i fwynhau bywyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Roedd rygbi'n rhan mawr o'i fywyd ar hyd y blynyddoedd."

Mae rhai sy'n ei 'nabod ers llawer hirach na fi yn cofio am ei ddrygioni diniwed tra'n hyfforddi'n nyrs, ac wrth gwrs yr holl hwyl (ddim mor ddiniwed pob tro falla!) a gafodd efo'r hogiau rygbi, yn chwarae i Fangor a Chaernarfon.

Roedd rygbi'n rhan mawr o'i fywyd ar hyd y blynyddoedd - ac roedd yn benderfynol o fwynhau tripiau i wylio Cymru yn Nulyn, Caeredin a Rhufain hyd yn oed yng nghyfnodau anoddaf ei salwch. Doedd neb yn gweiddi'n fwy croch wrth wylio'r crysau coch nag Irfon!

Un arall o'i hoff bethau oedd cerddoriaeth, a bandiau pres yn bennaf. Roedd yn aml yn dweud wrtha' i bod y teimlad o berthyn i fand yn debyg i fod yn rhan o glwb rygbi. Yn sicr mi brofodd o wefr y ddau beth a gwneud ffrindiau oes.

Ond heb os, y peth pwysica' ym mywyd Irfon oedd ei deulu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Irfon a'i bump o blant

Roedd yn addoli ei wraig Becky, ac fe gawson nhw flynyddoedd bendigedig gyda'i gilydd, a hithau wedi gofalu amdano mor dyner a gofalus dros y blynyddoedd diwetha'.

Ei bump o blant oedd ei fyd, ac roedd mor falch ohonyn nhw i gyd. Yn fwya' diweddar roedd wedi cael pleser mawr o wylio ei ddau fab ieuengaf yn ffynnu - Sion yn mwynhau perfformio a Ianto'n gwirioni ar b锚l-droed. Mae'r ddau mor hoffus, pobl yn eu 'nabod a hwythau'n siarad efo pawb lle bynnag maen nhw - yn union fel eu tad.

Un 芒'i wydr yn hanner llawn oedd Irfon bob amser - a hynny'n ei dro yn ei arwain at sefydlu cwmni o'r un enw i helpu pobl feithrin agwedd bositif a delio 芒 phwysau meddyliol waeth beth fo'r sefyllfa. Faint o bobl sy'n ddigon o gymeriadau i fentro i fyd busnes a hynny tra'n delio 芒 chanser, dwi wir ddim yn gwybod.

Ond unwaith eto, roedd ei awydd anhygoel i helpu eraill yn ei arwain ymlaen.

Fel nyrs seiciatryddol y dechreuodd Irfon ei yrfa ym maes iechyd meddwl, cyn dod yn bennaeth y gwasanaeth plant a phobl ifanc CAHMS yn y gogledd.

Ychydig cyn ei ddiagnosis, cafodd ei enwi'n Nyrs y Flwyddyn mewn gwobrau cenedlaethol. Yn amlwg roedd ganddo dalent yn y maes, a dyma agwedd arall o'r golled ar ei 么l, yn enwedig mewn cyfnod lle mae iechyd meddwl yn bwnc mor amlwg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Irfon a'i wraig Becky tu allan i'r Colosseum yn Rhufain

Yn sicr mae ei 'nabod o wedi gwneud i mi sylweddoli pwysigrwydd cadw meddwl iach ac agwedd bositif, a cheisio gwerthfawrogi'r pethau bychain ym mywyd pob dydd. Dwi'n credu bod hynny'n wir am bobl eraill dreuliodd amser yn ei gwmni. Roedd ei awch am fywyd yn heintus.

Un peth sy'n gysur wrth feddwl am ei wraig, Becky, ei blant a'r teulu i gyd yn eu galar poenus. Dwi'n gwybod y bydd Irfon wedi eu siarsio i edrych am y pethau da, yr atgofion melys, y cariad a'r hwyl.

Mi ofynnodd Becky i mi gyfieithu neges er mwyn iddi ei roi ar Facebook o fewn oriau i'w golli. Ro'n i yn fy nagrau'n ei ddarllen a'n gofyn iddi o le gafodd hi'r nerth i lunio rhywbeth mor brydferth a theilwng. "Gan Irfon," oedd yr ateb. "Roedd o'n anhygoel hyd at y diwedd... Dwi'n mynd i'w golli fwy na alla' i fyth ddychmygu".

Fyddwn ni gyd yn dy golli Irfon annwyl, ond diolch o waelod calon am bopeth. Mi fydd dy seren yn gwenu'n ddisglair wrth i ni gofio amdanat a'r holl nes di roi i'r byd 'ma.