Llais y Llywydd: Amy Wadge
- Cyhoeddwyd
Llywydd Eisteddfod yr Urdd dydd Llun ydy'r gantores a'r cyfansoddwr Amy Wadge, sydd wedi cael llwyddiant mawr yn y blynyddoedd diwethaf drwy ei phartneriaeth gerddorol gydag Ed Sheeran.
Un o Fryste yn wreiddiol yw Amy, ond mae hi'n byw ers tro ger Pontypridd gyda'i phlant a'i g诺r.
Mae hi wedi cael gyrfa lwyddiannus fel cantores yng Nghymru, gan ennill dwy wobr yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru, cyn cyrraedd brig y siartiau a chipio dwy wobr Grammy gyda'r g芒n Thinking Out Loud, gafodd ei chanu gan Sheeran.
Bu'n s么n am ei pherthynas gyda'r Urdd a'r 'Steddfod cyn iddi gamu i'r llwyfan fel llywydd.
Beth oedd eich profiad cyntaf o'r Urdd?
Daeth fy mhrofiad cyntaf drwy fy mhlant. Tyfodd fy ng诺r, Alun ap Brinley, i fyny gyda'r Urdd, felly roedd yn awyddus iawn i'r merched gael yr un profiadau. Mae'r Urdd bellach yn rhan mawr o'u bywydau ac maent wrth eu boddau.
Sut fyddwch chi a'r teulu yn rhan o'r Eisteddfod pan ddaw i Ben-y-bont, a sut mae e wedi bod yn rhan o'ch bywyd dros y blynyddoedd diwethaf?
Eto, byddwn ni'n rhan ohono drwy'r plant - fy merch hynaf yw un o'r prif gymeriadau yn Bracchi, y sioe iau, ac mae hi hefyd yn aelod o'r c么r a chystadlaethau gr诺p eraill gyda'r ysgol. Bu hi a'i chwaer hefyd yn cystadlu yn rowndiau cynnar yr Eisteddfod. Mae'r ddwy yn caru actio a chanu, felly bydd yn dod yn beth rheolaidd dros y blynyddoedd sydd i ddod, ond rydyn ni'n gyffrous iawn ei bod yn ein hardal ni eleni.
Pa gystadleuaeth newydd hoffech ei weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Gan mai ysgrifennu caneuon yw fy mhroffesiwn, byddai'n wych gweld categori ysgrifennu caneuon cyfoes.
Disgrifiwch ardal Pen-y-bont ar Ogwr i bobl sydd erioed wedi bod yna o'r blaen.
Ardal gynnes a chyfeillgar yw Pen-y-bont, sydd 芒 llawer i'w gynnig i bobl sy'n ymweld am y tro cyntaf.
Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Mae gweld plant yn dysgu sut i weithio fel rhan o d卯m, a rhoi eu hamser i greu rhywbeth rhyfeddol wastad yn mynd i fod yn rhywbeth positif. I mi, rhan bach yn unig yw'r elfen gystadleuol, mae mwy am wneud ffrindiau a bod yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Cymru yn wych - barddoniaeth, drama a cherddoriaeth.