91热爆

Gwasanaeth Iechyd Cymru yn rhwystro e-byst allanol

  • Cyhoeddwyd
Neges ymosodiad seibr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r neges oedd yn ymddangos yn dilyn yr ymosodiad seibr yn Lloegr a'r Alban

Mae e-byst sy'n cael eu hanfon i gyfrifon y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru (GIG) gan ddefnyddwyr allanol wedi cael ei rhwystro yn dilyn ymosodiad seibr ar wasanaethau yn Lloegr a'r Alban.

Cafodd 45 o sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd eu heffeithio gan ymosodiad seibr ddydd Gwener, sydd hefyd wedi effeithio sefydliadau mewn 100 o wledydd.

Dywedodd Gwasanaethau technoleg gwybodaeth GIG bydd e-byst sy'n cael eu hanfon i gyfrifon yn cael eu dileu yn awtomatig rhag ofn, tan ddydd Llun.

'Adolygiad'

Mae e-byst sy'n cael eu hanfon allan ac yn fewnol yn gweithio'n arferol.

Mewn neges drydar ddydd Sadwrn dywedodd Gwasanaethau technoleg gwybodaeth GIG: "Yn dilyn ymosodiad seibr ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, rydym wedi rhwystro holl e-byst sy'n cael eu hanfon yn allanol i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Bydd adolygiad ddydd Llun."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does dim ymosodiad seibr wedi bod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru hyd yma sy'n debyg i'r hyn sydd wedi effeithio ar systemau yn Lloegr a'r Alban.

"Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi i uwchraddio ein technoleg gwybodaeth i ddiogelu systemau sydd o bosib yn fregus yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Rydym hefyd wedi cyflwyno system ddiogelwch cyfrifiadurol o safon cenedlaethol ar gyfer holl feddygfeydd teulu yng Nghymru.

"Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus".