Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lansio cofrestr i gofnodi enwau lleoedd hanesyddol
Mae cofrestr statudol ar gyfer enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru wedi cael ei lansio am y tro cyntaf.
Mae tua 350,000 o enwau eisoes wedi eu cofnodi ar y - y cyntaf o'i fath yn y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates mai'r gobaith yw ceisio "cadw'r enwau arbennig hyn yn fyw".
Ond mae Plaid Cymru wedi mynnu fod y gofrestr yn "aneffeithiol" am nad yw'n gwarchod yr enwau hynny at y dyfodol.
'Cydnabod eu gwerth'
Yn 么l y llywodraeth, bwriad y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yw amddiffyn a hyrwyddo defnydd modern o'r enwau hynafol.
Cafodd y gofrestr ei chyflwyno fel rhan o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), ble mae gan weinidogion yr hawl i orfodi perchnogion sy'n achosi difrod i unrhyw henebion i'w atgyweirio.
Dywedodd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a gasglodd yr enwau ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae astudio'r enwau hyn yn rhoi gwybodaeth am amgylchiadau, brwydrau, goresgyniadau, a chwyldroadau diwydiannol ac amaethyddol y gorffennol.
"Maen nhw'n elfen hynod bwysig o amgylchedd hanesyddol Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn mwynhau defnyddio'r wefan newydd hon i ddysgu mwy am enwau lleoedd hanesyddol Cymru a chydnabod eu gwerth."
Ychwanegodd Mr Skates mai "dim ond y dechrau" oedd y rhestr o enwau gafodd ei chyhoeddi ddydd Llun.
Ym mis Mawrth, fe bleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn erbyn cynnig fyddai wedi amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol Cymreig mewn deddfau cynllunio.
Roedd AC Plaid Cymru, Dai Lloyd wedi gobeithio cyflwyno bil fyddai wedi amddiffyn enwau tai, ffermydd, caeau, a nodweddion corfforol a thirweddol.
Daeth y cynnig yn dilyn sawl ffrae ddiweddar dros newid enwau lleoedd, gan gynnwys ymgais i enwi Plas Glynllifon ger Caernarfon yn Wynnborn Mansion ar gyfer ymdrech farchnata ar-lein.
Wrth ymateb i lansiad y gofrestr, dywedodd Dr Lloyd: "Tra bod y rhestr yma'n sicrhau fod ein henwau lleoedd hanesyddol yn cael eu cofnodi, fydd dim gofynion cyfreithiol o gwbl ar unrhyw gorff cyhoeddus nac unigolyn i warchod yr enwau sy'n ymddangos arni."