Tro pedol ar enw Plas Glynllifon ger Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Halifax yn Sir Efrog wedi gwneud tro pedol yn dilyn ymateb chwyrn i newid enw eiddo rhestredig gafodd ei roi ar werth ar eu gwefan.
Roedd cwmni MBi Sales wedi cyhoeddi ar eu gwefan bod 50 o ystafelloedd Plas Glynllifon yn Llandwrog ger Caernarfon yn cael ei roi ar werth o dan yr enw newydd Wynnborn.
Yn eu deunydd marchnata - sydd bellach wedi ei dynnu o'r wefan - fe ddywed MBi: "Glide up the driveway of Grade-I listed Wynnborn mansion and drift back to a time of butlers and footmen, and of aristocratic landowners entertaining royalty beneath vaulted ceilings."
Bu ymateb ar wefannau cymdeithasol, ond dywedodd Simon Moppett o MBi wrth raglen Taro'r Post ar Radio Cymru y bydd yr enw Plas Glynllifon yn aros ar eu deunydd marchnata o hyn ymlaen.
Ymateb chwyrn
Ond mae'r cyfan wedi gwylltio'r Cynghorydd Si芒n Gwenll茂an o Gyngor Gwynedd, sydd hefyd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad y Cynulliad yn flwyddyn nesaf.
Dywedodd wrth Taro'r Post: "Ni ddylid newid enw Glynllifon... mae'n rhan o'n treftadaeth."
Ychwanegodd y byddai'n codi'r mater gyda phwyllgor iaith Cyngor Gwynedd.
Fe gyhoeddodd Cyngor Ceredigion ym mis Mawrth eleni y bydden nhw'n dechrau polisi o annog perchnogion i beidio diddymu hen enwau Cymraeg.
Mae Dr Glenda Carr wedi cyhoeddi cyfrolau am enwau lleoedd yng Nghymru, ac mae gan ei theulu gysylltiad penodol gyda Phlas Glynllifon.
Ei hymateb cyntaf wrth siarad 芒 Cymru Fyw oedd: "Beth ydi'r gair Cymraeg am 'gobsmacked' dwedwch?
"Dydw i ddim yn gwybod yn union pa mor bell yn 么l y mae enw Plas Glynllifon yn mynd, ond mae'r cofnodion cyntaf i mi eu gweld yn dyddio n么l i'r 16eg ganrif yn ei ddefnyddio.
"O'r afon Llifon y mae tarddiad yr enw, ac fe fyddai Wynnborn yn gwneud rhywfaint o synnwyr oherwydd mae 'bourne' yn cyfeirio at ffrwd neu afon ac mae teulu'r Wynniaid yn hanesyddol yn yr ardal.
"Ond mae newid enw fel hyn heb unrhyw reswm yn cythruddo rhywun - does dim synnwyr o gwbl i'r peth."
Ymateb y cyngor
Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn awyddus i gadw enwau Cymraeg, a dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: "Pan mae'r Cyngor yn derbyn adroddiad fod bwriad i newid enw t欧 neu eiddo o enw Cymraeg, rydym yn anfon llythyr safonol i'r sawl sy'n cynnig enw di-Gymraeg neu newid enw o'r Gymraeg yn nodi'r rhesymau diwylliannol, hanesyddol a demograffig dros gadw enwau Cymraeg.
"Tra nad oes gan y Cyngor hawl i orfodi enwau Cymraeg ar eiddo, drwy ohebu yn y modd yma, mae'r Cyngor yn manteisio hyd eithaf ein dylanwad ar y cyfle i arddel enwau Cymraeg."
Fel adeilad cofrestredig Gradd I, mae Plas Glynllifon o dan oruchwyliaeth corff henebion Llywodraeth Cymru, Cadw, ac mae Cymru Fyw wedi gofyn am ymateb ganddyn nhw.