91热爆

Cynllun newydd i asesu sefyllfa'r Gymraeg yn Llambed

  • Cyhoeddwyd
Cymraeg

Dros y misoedd nesaf bydd Menter Iaith Ceredigion yn dechrau cynllun newydd er mwyn asesu sefyllfa'r Gymraeg yn Llanbedr Pont Steffan a'r cyffiniau drwy ffurfio Pwerdy Iaith Llambed.

Mae gan Menter Iaith Ceredigion, neu 'Cered' fel mae'n cael ei adnabod, brosiectau tebyg yn nhrefi Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Llandysul a Thregaron.

Mae'r pwerdai iaith yn gyfle i bobl leol a busnesau ddod at ei gilydd i drafod sefyllfa'r Gymraeg yn eu cymuned, adnabod y cryfderau a'r gwendidau a gweithredu lle mae angen er mwyn cefnogi'r iaith.

Gan ddefnyddio pecyn adnoddau Gweithredu'n Lleol Llywodraeth Cymru, y bwriad yw dod 芒 thrigolion lleol at ei gilydd er mwyn trafod ac adnabod cryfderau a gwendidau'r Gymraeg yn lleol mewn pum maes gwahanol. Y meysydd dan sylw yw demograffeg; trosglwyddo iaith a'r blynyddoedd cynnar; addysg; bwrlwm cymdeithasol a diwylliannol; a'r economi a gwasanaethau lleol.

'Cyfle gwych'

Dywedodd Lynsey Thomas, rheolwr Cered: "Mae'r Pwerdy yn gyfle gwych i ddeall mwy am yr heriau sy'n wynebu'r Gymraeg yn Llambed i'n galluogi i dargedu ymdrechion ac adnoddau yn effeithiol i'w hybu."

Bydd Cered yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws er mwyn ymchwilio i sefyllfa'r Gymraeg yn y meysydd dan sylw cyn paratoi cynllun gweithredu. Bydd y cynllun yn galluogi Cered i gydweithio gyda'r gymuned leol er mwyn datblygu prosiectau i gryfhau'r Gymraeg yn y dref medd y trefnwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Steffan Rees o Fenter Iaith Ceredigion

Mae Steffan Rees yn swyddog datblygu cymunedol gyda Cered. Esboniodd mai amcan y pwerdai oedd gweithredu ar lefel leol:

"Mae cynllunwyr iaith wedi nodi bod angen gweithredu o blaid y Gymraeg ar lefel digon lleol - ar lefel ble mae trigolion lleol, pobl ar lawr gwlad yn gallu gwneud gwahaniaeth.

"Dyna ni moyn wneud - yw i rymuso pobl i allu gwneud rhywbeth o blaid y Gymraeg, i allu datblygu prosiectau ar eu liwt eu hunain neu mewn partneriaeth gyda ni fel menter iaith a gallu newid a chryfhau sefyllfa'r Gymraeg a chodi'r gwytnwch yna'n lleol.

"Fel pob cadarnle - os ewch chi reit lan i'r gogledd mae pethau'n sigledig, ond fel da ni gyd yn gwybod mae'r ystadegau wedi gostwng, mae Ceredigion yn lle bellach lle mae lleiafrif sy'n siarad Cymraeg yn anffodus, ac mae lle i weithredu mewn lle fel Llambed - gyda 46.9% yn siarad Cymraeg - mae lle yn amlwg i drio sefydlogi pethau a gobeithio gweld twf."

Mae 'na gryfder o ran y Gymraeg yn y gymuned yn y dref, ond gwarchod hynny, ac adeiladu ar y seiliau fydd un o amcanion y pwerdy iaith wrth iddo ddechrau ar ei waith ochr yn ochr ag aelodau'r gymuned ei hun.

Ffynhonnell y llun, Menter Iaith Ceredigion