M4: Rhybudd amgylcheddwyr am 'niwed sylweddol' i natur
- Cyhoeddwyd
Mae amgylcheddwyr wedi rhybuddio y byddai ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn ardal Casnewydd yn achosi "niwed sylweddol" i fywyd gwyllt yr ardal.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent y gallai rhywogaethau fel dyfrgwn, llygod d诺r, ystlumod, tylluanod, pathewod a madfallod d诺r gael eu heffeithio gan y ffordd 拢1.1bn.
Ychwanegodd y naturiaethwr Iolo Williams fod y cynlluniau gyfystyr 芒 "ecoladdiad dan nawdd y llywodraeth".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai gwaith yn cael ei wneud i leihau'r effaith, gan gynnwys twneli mamaliaid.
Ond mae disgwyl i'r elusen ddweud wrth ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghasnewydd fod y camau hynny "yn bell o fod yn ddigonol".
'Ecoladdiad'
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu dechrau gwaith ar y ffordd newydd er mwyn lleihau traffig yn yr ardal yn 2018, gyda'r llwybr yn agor yn 2021.
Ar hyn o bryd mae'r llwybr maen nhw'n ei ffafrio yn croesi Gwastadeddau Gwent, ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad, dywedodd Iolo Williams bod adeiladu'r ffordd gyfystyr 芒 "ecoladdiad dan nawdd y llywodraeth".
Dywedodd ei fod yn "caru" ardal Gwastadeddau Gwent, ac yn "gandryll gyda Llywodraeth Cymru a'r cynllun i roi 16km o draffordd drwy'r 'ardal dan amddiffyniad' yma".
Yn ei ddatganiad, dywedodd bod yr ardal yn "brin a chymhleth ac o bwys yn genedlaethol i fywyd gwyllt" gan ei fod yn gartref i nifer o rywogaethau nodedig o anifeiliaid a phlanhigion, fel llygod d诺r a dyfrgwn.
"Mae meddwl am ddinistrio pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol sy'n rhan o'r gem Gymreig yma yn wallgof," meddai.
"Mae effeithiau uniongyrchol cymryd 125 hectar o dir a'r dinistr fydd yn cael ei achosi gan 16km o goncrid ar y cynefinoedd yna yn enfawr - ac yn ddigynsail yng Nghymru."
'Syfrdanu a'n dychryn'
Mae'r cynllun hefyd wedi cythruddo'r Ymddiriedolaeth, sydd yn dweud nad yw'r llywodraeth wedi cymryd "unrhyw gamau" i ddiogelu'r ardaloedd hynny rhag cael eu heffeithio gan y ffordd.
"Rydyn ni wedi ein syfrdanu a'n dychryn y gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y draffordd fod mor niweidiol, ac eto mae'r camau sydd wedi eu cynnig er mwyn lleddfu'r effaith yn bell o fod yn ddigonol," meddai'r elusen.
Ym mis Mawrth, clywodd y gwrandawiad y byddai'r ffordd yn cael "effaith sylweddol" ar yr ecoleg a bywyd gwyllt lleol, ond y byddai camau'n cael eu cymryd i leihau'r effeithiau.
Dywedodd ecolegydd ar ran y llywodraeth Dr Keith Jones wrth y gwrandawiad y byddai'r ffordd yn cael effaith ar gynefinoedd "rhywogaethau sydd yn cael eu diogelu".
Ond fe ddywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i liniaru unrhyw effaith gan y byddai'r draffordd yn croesi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017