Llai yn ysmygu yng Nghymru wedi gwaharddiad
- Cyhoeddwyd
Mae 'na lai o ysmygwyr nawr na phan ddaeth y gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus i rym yn 2007, yn 么l ystadegau Llywodraeth Cymru.
Ddydd Sul mae'n 10 mlynedd ers cyflwyno'r gyfraith, a bellach mae 94,000 yn llai yn ysmygu yng Nghymru.
Bellach mae 19% o oedolion Cymru yn ysmygu - o'i gymharu 芒 24% ddegawd yn 么l.
Bu gostyngiad o 6% yn nifer y bechgyn yn eu harddegau sy'n ysmygu, a 14% yn llai o enethod.
Mae elusen ASH Cymru'n dweud y bu "newid diwylliannol mawr" yn y cyfnod, ond dywedodd gr诺p Forest, sy'n cynrychioli ysmygwyr, bod y gwaharddiad wedi effeithio ar dafarndai a chlybiau nos.
Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud sylw ar y ffigyrau ddydd Llun.