Pryderon am gyllid gorsaf fysiau newydd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Nid yw'r cyllid ar gyfer gorsaf fysiau gwerth miliynau o bunnau yng Nghaerdydd wedi cael ei ddynodi, a hynny naw mis cyn y mae disgwyl iddi agor.
Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i drafod y cynlluniau ar gyfer yr orsaf fysiau gyda'r datblygwyr Rightacres.
Y disgwyl yw y bydd yn agor ym mis Rhagfyr 2017, ond dywedodd y cyngor mai "canllaw yn unig" oedd yr amserlen honno.
Dywedodd y cynghorydd Elizabeth Clark ei fod yn "warthus" nad oes llawer wedi ei wneud.
"Rwy'n poeni fwyfwy ynghylch a fydd Caerdydd fyth yn cael gorsaf fysiau priodol eto," meddai arweinydd gr诺p y Democratiaid Rhyddfrydol ar y cyngor.
Trafod yn parhau
Cafodd y cyn-orsaf fysiau ei dymchwel i wneud lle i bencadlys newydd 91热爆 Cymru.
Rhoddwyd caniat芒d cynllunio i'r orsaf fysiau newydd, yn ogystal ag unedau manwerthu a swyddfeydd gan gynghorwyr yn gynharach y mis hwn.
Dywedodd adroddiad ar gyfer y cyfarfod cabinet y cyngor ddydd Iau fod trafodaethau ar y gweill i gyrraedd cytundeb dros ariannu rhan y gyfnewidfa fysiau o'r datblygiad.
"Mae'r cyngor yn ceisio sicrhau y bydd y gyfnewidfa fysiau yn cael ei gwblhau o fewn y gyllideb ac amserlen bresennol, ac yn bwriadu gorffen y trafodaethau hyn mewn pryd i alluogi'r gwaith adeiladu i gychwyn yn syth ar 么l cwblhau'r gwaith o baratoi'r safle."