Troi'n 50
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 ddydd Llun. Ac mae'n flwyddyn fawr i nifer o wynebau cyhoeddus eraill Cymru eleni, wrth iddyn nhw hefyd droi'n 50. Felly a ydy bywyd yn gwella wrth gyrraedd y garreg filltir, neu a ydy cyrraedd yr hanner canrif yn achlysur fyddai'n well gan rai ei anghofio? Aeth Cymru Fyw i holi rhai o'r s锚r sut fyddan nhw'n dathlu eu pen-blwydd?
Dydd Llun, Mai 22 mae Tudur Owen yn dathlu ei ben-blwydd yn 50. Ac yntau wedi diodde' o ganser ddwy flynedd yn 么l, mae ei ben-blwydd eleni yn achlysur i ddathlu:
"Dwi'n falch o fod wedi cyrraedd mewn un darn o ystyried be' sy' wedi digwydd i mi dros y blynyddoedd dwetha'.
"Fyddai ddim yn cael parti. Ges i barti pan o'n i'n 40 a wnes i ddim ei fwynhau o gwbwl.
"Dwi'n meddwl wn芒i fel y Frenhines, a chael tymor o ddathliadau. Felly cyfres o nosweithiau teuluol heb ormod o ffys. Bysa fo'n neis cael mynd i ffwrdd rhywle.
"Mae cyrraedd 50 yn gwneud i fi sylweddoli fy mod i bellach yn ail hanner fy mywyd a pheth mor werthfawr ydy amser. Mae'n gwneud i fi fod eisiau mwynhau, poeni llai am bethau a gwerthfawrogi bywyd."
Efallai i chi glywed s诺n mawr ar 91热爆 Radio Cymru ar ddiwrnod pen-blwydd y cyflwynydd Tommo. Bu dathlu mawr ar ei raglen ar brynhawn dydd Mercher 1 Chwefror wrth iddo fe gyrraedd yr hanner canrif:
"Y dathliad pen-blwydd gorau ges i oedd cyflwyno'r rhaglen yn fyw ar fy mhen-blwydd. Roedd y t卯m wedi trefnu sawl syrpreis i fi, daeth fy hoff fand Ail Symudiad i'r stiwdio i chware a ges i llwyth o negeseuon gan bobl adnabyddus.
"Dwi'n byw o ddydd i ddydd, ac i ddweud y gwir dydy oedran ddim yn golygu dim byd i fi. Dwi'n credu mod i'n 12 oed yn fy meddwl i o hyd!
"I fod yn onest, do'n i ddim yn meddwl bysen i'n cyrraedd y garreg filltir yma. Ers i fi gael aren newydd ddeng mlynedd yn 么l, pan o'n i'n 40, mae rhai pobl yn dweud wrtha i bod angen i fi arafu. A dwi'n dweud "amser i fi slowo lawr? Nady glei!"
"Yr unig obaith sydd 'da fi ar gyfer y ddegawd nesa' yw i barhau i gadw'n ffit a gofalu beth dwi'n bwyta a theimlo'n well am fy hunan. Dwi'n dwli dod i'r gwaith, a dwi'n teimlo hi'n fraint darlledu ar 91热爆 Radio Cymru, felly dwi eisiau cario mlaen i wneud hynny."
Roedd yr actor Steffan Rhodri yn dathlu ar ddydd G诺yl Dewi, ac mae e'n gweld y pen-blwydd yn gyfle am her ac i fwynhau:
"Bob tro mae pen-blwydd mawr yn dod lan 'da fi, pan o'n i'n 30, 40 a nawr yn 50 oed, fyddai ddim yn trio celu'r peth. Os oes rhywun yn gofyn fy oedran dwi'n dweud "fyddai'n 50 ym mis Mawrth" - i ddod yn gyfarwydd 芒'r syniad, felly dwi'n gwbl iawn gyda'r syniad erbyn bod y pen-blwydd yn dod.
"Dwi'n cas谩u part茂on, felly fe wnes i roi cynlluniau bach mewn lle i neud rhywbeth i ddathlu. Pan dwi'n Llundain, dwi'n nofio mewn lido d诺r oer bob dydd yn Brockwell. Rwy' wedi dod i nabod y criw o bobl sydd yno yn dda iawn ac fe benderfynon ni fynd i Sweden adeg fy mhen-blwydd. Mae na lidos yno a piers yn mynd mewn i'r m么r, oer. Mae'n dda i gael yr her.
"Dwi am fynd ar wylie gyda fy nghariad, ac yna i Efrog Newydd lle mae hi'n gweithio ar hyn o bryd.
"Oedd na adeg rhai blynyddoedd yn 么l pan feddylies i, pan dwi'n 50 fe brynai fotobeic a theithio rownd Ewrop. Fe ges i fotobeic, ond o'n i wedi danto gyda fe ar 么l rhyw flwyddyn, felly dwi jyst yn byw fy mywyd un dydd ar y tro a gweld beth ddaw. Mae'n well 'da fi wneud cynlluniau mwy ffwrdd 芒 hi."
Yn ddiweddar bu'r ffarmwr Gareth Wyn Jones yn wyneb cyfarwydd yng nghyfres Milk Man ar 91热爆1. Mae e'n troi'n hanner cant ym mis Mai, ac mae'n cofleidio'r cyfle i ddathlu:
"Mi fyddai'n cael parti de! Efo lot o bobl. Dwi bob amser yn edrych mlaen i joio. Rhif ydy 50, a mae fyny i chdi be ti'n neud efo fo. Dwi'n edrych ymlaen, mae'n ben-blwydd reit fawr.
"Mae'r hyn sy' 'di digwydd i fi dros y pum i chwe mlynedd ddwetha' yn anhygoel. Dwi ddim isho dim byd i newid. Dwi'n mwynhau bywyd, mae'n braf.
"Dwi mewn sefyllfa lle dwi'n neud fy ngwaith a dwi'n ei fwynhau. Dwi'n ffodus bod fy rhieni yn dal i fyw, a dwi'n cael treulio llawer o amser efo nhw a'r teulu - mae hynny'n bwysig. Mae bywyd yn rili braf ar hyn o bryd."
Ymhlith rhai eraill o wynebau enwog Cymru sy'n dathlu'r 50 eleni mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones, yr actor Rhys Ifans, y cyflwynydd tywydd Derek Brockway a'r Aelod Cynulliad Eluned Morgan.
Pen-blwydd Hapus!