'Dyn llefrith' enwocaf Cymru?

Er bod ei gyfres deledu ddiweddar yn cyfeirio ato fel y dyn llefrith - neu'r 'milk man' - ffermwr mynydd ydy Gareth Wyn Jones. Mae bellach yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y byd amaeth yng Nghymru, a hynny, yn rhannol, oherwydd ei bresenoldeb amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bu Cymru Fyw yn siarad gyda'r g诺r o Lanfairfechan am ei fwriad i newid agweddau pobl tuag at ffermwyr, un trydariad ar y tro...

"Mae pobl yn tueddu i edrych ar ffermwyr fel diawliaid sych a diflas, ond tyda ni ddim," meddai Gareth Wyn Jones wrth siarad mewn gweithdy yn ddiweddar am bwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol.

Tydi trafod Twitter wrth ochr Hayley Pearce - a ddaeth i enwogrwydd fel y ddynes gwneud te ar raglen realaeth The Call Centre - ddim yn rhywbeth mor anarferol 芒 hynny i Gareth erbyn hyn.

"Os fydda fy ngyrfa teledu i'n dod i ben fory, mi fydda hi wedi bod werth o," meddai. "Alli di ddim prynu be' dwi wedi bod mor lwcus i 'neud."

Mae'r gyfres deledu Milk Man ar 91热爆 One Wales - oedd yn edrych ar sefyllfa'r diwydiant llaeth yng Nghymru - newydd ddod i ben.

"Roedd yr ymateb yn anhygoel a 98 y cant ohono fo'n bositif," meddai'r cyflwynydd, Gareth Wyn Jones. "Nes i fwynhau pob munud ohono fo."

Ffynhonnell y llun, Twitter

Disgrifiad o'r llun, Yr olygfa o "swyddfa" Gareth ar ben y Carneddau

Ei fwriad drwy gyflwyno cyfres o'r fath, meddai, ydy ceisio cau'r bwlch rhwng y cwsmeriaid a'r cynhyrchwyr.

"Efo Brexit r诺an, does neb yn gwybod be' sy' am ddigwydd," meddai. "Yr unig beth dwi'n teimlo ydy bod yn rhaid i ni gwffio ein cornal fel diwydiant.

"Mae'n rhaid i bobl Prydain brynu mwy o'n cynnyrch ni ac mae'n rhaid i ni ailgysylltu efo'r bobl 'ma."

Trydar y Prif Weinidog

Mae'n dweud fod tywydd eithafol 2013 - lle bu farw dwsinau o ferlod mynydd prin yn Llanfairfechan - wedi agor ei lygaid i ddylanwad a chyrhaeddiad y cyfryngau cymdeithasol.

"Ar 么l adag yr eira mawr, nesh i weld pa mor gryf ydy dylanwad Twitter," meddai. "Roedd gweld merlen yn sefyll dros ei ebol bach oedd wedi marw ers tri diwrnod yn torri fy nghalon i bob tro roedd yn rhaid i mi basio. Doeddan ni ddim yn cael ei gladdu o yn y fan a'r lle o achos deddf gwlad.

"Ond nes i yrru tweet i Lywodraeth Cymru ac [i'r prif weinidog] Carwyn Jones ac mi gaethon ni ganiat芒d i gladdu'r ebol heb orfod disgwyl am y tystysgrif.

Twitter 'wedi newid fy mywyd'

"Mae ffermwyr wedi'u hynysu'n ofnadwy. Dwi wedi bod yn y busnas ffermio ers dros 40 mlynedd ond mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi newid fy mywyd."

Drwy Twitter hefyd mae Gareth wedi sicrhau ambell i gytundeb, gyda un cigydd blaenllaw yn Llundain yn prynu ei gynnyrch yn gyson, a'r bartneriaeth honno wedi dod yn uniongyrchol o drydar y ffermwr.

"Ma' 80 y cant o'r boblogaeth yn byw mewn trefi a dinasoedd - does ganddyn nhw ddim cysylltiad efo cefn gwlad," meddai.

"Mae'r bwyd mewn bagia' plastig mewn archfarchnadoedd, a dyna ni. 'Da ni wedi mynd yn throwaway society.

"Be' fyswn i'n licio gweld ydy butcher's a lladd-dai bach yn dod yn 么l. Gan y proseswyr mawr mae'r p诺er i gyd. Roedd 'na dri lladd-dy a chwech siop bwtsiwr yn arfer bod yn Llainfairfechan, dim ond un sydd ganddo' ni r诺an.

"Mae'n bwysig fod pobl yn gwybod o lle mae'r bwyd yn dod ac ei fod o am bris teg."

'Colled addysgol'

Ac yntau bellach yn aml yn llygad y cyhoedd, mae hynny'n dod 芒 rhywfaint o gyfrifoldeb a dydi'r sylwadau ddim wastad yn ffafriol.

"Y rhai sydd fwyaf ymosodol ydy feganiaid (vegans)," meddai. "Maen nhw'n gallu bod yn gas weithiau.

"Fedri di ddim ffraeo efo nhw. Ond os 'na dyna ydy dy goel di, be' fydda i'n ofyn ydy 'wyt ti wedi bod ar ffarm odro?' Mae hi fyny iddyn nhw wedyn i 'neud eu meddylia' i fyny.

"Mae 'na golled addysgol yn fa'ma yn rwla. Ma' pobl wedi colli'r cysylltiad efo bwyd. O lle maen nhw'n feddwl mae'r gwrtaith yn dod i dyfu'r llysia'? 'Sgen i ddim problam efo pobl sydd ddim yn bwyta cig ond 'sgen i ddim mynadd efo pobl yn d'eud wrtha' i be' i 'neud.

"Dwi'n teimlo bod y wlad yma ac amaethwyr yn edrych ar 么l eu hanifeiliad. Dwi wastad wedi d'eud - os na ti'n edrych ar 么l dy anifeiliaid di, dydyn nhw ddim yn mynd i edrych ar d'么l di. Nhw sy'n talu dy filia' di.

"Dwi'n meddwl mai'r negas o sut mae cynhyrchu bwyd a chysylltu efo bobl ydy'r negas bwysica'. Dwi'm yn meddwl bod yr un o'r sectora'n g'neud yn dda - moch, ieir.

"Mae'n amsar i bobl ailgysylltu efo'r ffarmwr a sut ma' petha'n cael eu creu. Mae'r sector llaeth wedi mynd trwy amsar calad ond dwi'n meddwl fod petha'n gwella.

"Mae'n amsar i betha' newid neu fydd mwy o bobl yn mynd allan o fusnas. Rhaid i ni gofio, os ti isio llefrith ar dy corn flakes rhaid chdi gael y ffarmwr yna. Neu fel arall bydd rhaid ni fewnforio bwyd rh芒d."

A'i galon yn amlwg yn parhau ar ei fferm deuluol yn Llanfairfechan, fyddai gan Gareth ddyhead i olynu un o hoelion wyth y byd darlledu amaethyddol yng Nghymru - y bytholwyrdd Dai Jones Llanilar - rhyw bryd yn y dyfodol?

'Sgidiau rhy fawr i'w llenwi

"I fi, na. Un Dai Jones sydd 'na. Gareth Wyn Jones dwi a dwi'n hollol wahanol. Ma'r 'sgidiau yna'n rhy fawr i'w llenwi.

"Ond os fyswn i'n cael y cyfla i 'neud twtch bach o be' ma' Dai wedi'i 'neud - achos ma' Dai wedi bod yn legend - fyswn i wrth fy modd. Ond dwi'n si诺r bod 'na flynyddoedd yn sb芒r yn Dai Jones eto!"

Disgrifiad o'r llun, 'Sgidiau - neu 'wellies' - rhy fawr i'w llenwi?