91Èȱ¬

Bylchau yn y byd actio?

  • Cyhoeddwyd
Cynhyrchiad Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru o ddrama Alun Saunders, A Good Clean Heart. Oliver Wellington a James Ifan yw'r actorionFfynhonnell y llun, Aenne Pallasca
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchiad Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru o ddrama Alun Saunders, A Good Clean Heart. Oliver Wellington a James Ifan yw'r actorion

Oes yna ddigon o amrywiaeth pan ddaw hi i'r diwydiant actio? Mae dau sy'n enwau cyfarwydd yn y byd actio yng Nghymru, tu ôl ac o flaen y camera, yn meddwl bod bwlch mawr yn nhermau ethnigrwydd a chefndir cymdeithasol yma hefyd.

Mae'r dramodydd Alun Saunders o'r farn bod angen gwneud mwy i ddenu pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig i'r diwydiant, tra bod yr actor Mark Flanagan yn credu mai prinder pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol ydy'r broblem. Bu'r ddau yn siarad gyda Cymru Fyw:

Alun Saunders - Dramodydd

DISCLEMYR: Dwi ddim yn cyflwyno'r cysyniad canlynol 'er mwyn pryfocio', a dwi ddim, chwaith, am bwyntio bys*. Yn hytrach, dwi am gyflwyno'r 'datguddiad hwn nas llefarwyd' yn y gobaith o ysgogi trafodaeth a gwella sefyllfa.

(*Wel, dwi yn pwyntio bys, ond dim ond at yr eliffant yn yr ystafell).

Ble mae'r amrywiaeth yn ein cynnyrch artistig Cymreig?

Ystyriwch: Pryd oedd y tro diwethaf i chi weld perfformiwr nad oedd yn groenwyn mewn cynhyrchiad teledu/theatr yn yr iaith Gymraeg? A hynny mewn rôl flaenllaw?

Os mai'r ateb yw "…pennod Pobol y Cwm neithiwr…" yna grêt, dyna un enghraifft. A chyn hynny?

Tybed a gymerodd hynna'n hirach nag ychydig eiliadau? Os y'ch chi'n dechrau teimlo ychydig yn anesmwyth, yna nodwch hynna - dwi'n ei theimlo hefyd. Mae'n bwnc llosg sy'n medru corddi'r dyfroedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carli De'La Hughes yn chwarae rhan Vicky Collins yn Pobol Y Cwm ers 2015

Ewch at eich hoff beiriant chwilota ar-lein, chwiliwch am gast eich hoff gynyrchiadau Cymraeg… Chwiliwch y lluniau. A oes 'amrywiaeth'? Mhm. Dwi'n gwybod.

Dyma'r realiti amlwg: Mae llawer mwy o siaradwyr Cymraeg yn groenwyn nag unrhyw ethnigrwydd arall. Ffaith. Mae hi'n dilyn felly, y bydd mwyafrif o berfformwyr sy'n medru'r Gymraeg yn groenwyn. Dyma'r ffaith amdani yn ein byd Cymreig yn 2017, a does dim newid ar hanes.

Y cwestiwn: Pam - a sut - ddylai hyn newid?

I ddyfynnu o : "Mae cynulleidfa sy'n fwyfwy amrywiol yn gweld eisiau ac yn disgwyl gweld a chlywed ei hunan wedi'i hadlewyrchu'n wirioneddol yn y cyfryngau ac mae ei disgwyliadau yn uwch eto pan ddaw i theatrau a darlledwyr sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus."

Mae'r newidiadau wedi dechrau ar draws y DU, ond beth am gynyrchiadau iaith Gymraeg?

Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i dyfu fyny'n gweld pobl (weddol) debyg i fi mewn cynyrchiadau iaith Gymraeg h.y. modelau rôl - cymeriadau a ffigyrau sydd wedi gosod dyheadau ac wedi fy ngalluogi i weld gyrfa yn y cyfryngau fel posibiliad. Jeifin Jenkins… Sandra Doyle… Îfs o Pam Fi, Duw?

Wrth i blant a phobl ifanc nad sy'n groenwyn fynd i'r afael â chynnyrch theatr a theledu iaith Gymraeg, ym mhle mae'r modelau rôl? Ym mhle maen nhw'n gweld eu hunain wedi'u cynrychioli? Beth neu bwy sy'n eu 'galluogi' - hynny yw to enable and to empower - i ddilyn gyrfa fel actor/es Gymraeg lleiafrifol?

Ffynhonnell y llun, Alun Saunders

Llynedd roeddwn i'n y sefyllfa o eisiau castio cymeriad (cynhyrchiad theatr yn y Gymraeg) oedd ddim yn groenwyn, gan anelu am gast amrywiol/diverse. Methais.

I mi, roedd hyn yn fethiant trychinebus, yn sefyllfa dwi'n sicr fod llawer o gynhyrchwyr a chrëwyr eraill wedi bod ynddi hefyd, ac mae yna demtasiwn i ildio, i ddweud: 'Dyw'r talent ddim yno, felly pam ceisio? Pam creu'r cymeriadau hynny?'

Mae'r talent yno… Ond ry'n ni'n colli'r talent prin i waith tu allan i Gymru oherwydd diffyg cyfleoedd.

Dwi'n gwybod achos 'mod i wedi siarad â nhw. Yr hen ŵy a'r iâr wrth waith.

Pwy sydd am gamu i'r adwy a chyflwyno'r cyfleoedd, magu'r talent, galluogi ac ysbrydoli? Ar bwy mae'r cyfrifoldeb? Nyni. Y crëwyr.

Mark Flanagan - Actor

Dwi'n cofio'r eiliad pan 'nes i sylweddoli bod gwahaniaeth mawr rhwng cyfansoddiad fy nghymuned, a chyfansoddiad rheiny oedd yn gweithio yn y celfyddydau.

"CUT!!" bloeddiodd y cyfarwyddwr. "Mae'n rhaid i chdi dreiglo 'cyffuriau' yn y frawddeg yna Mark… ei chyffuriau… efo 'ch'. OK boi... gwych... stand-by… action!!"

Fues i'n lwcus iawn pan ges i fy swydd actio gyntaf - hogyn drwg o Gaernarfon oedd yn gwerthu cyffuriau rownd y stad. Fel bachgen ifanc wedi fy magu yn y dref, o'n i'n reit hyderus.

Ychydig yn ddryslyd oedd y ffaith bod safon iaith disgybl Lefel A yn perthyn i'r reprobate o'n i'n portreadu. Ond ta waeth, nhw oedd yn gwybod orau.

'Wyrach bod drug dealers hefyd yn gydwybodol o beidio gorffen eu brawddegau ar arddodiad, meddyliais i fy hun. "Ddo'i draw nes ymlaen efo'i chyffuriau. Ond dallta di, dwi isio 'mhres i tro yma!"

"Cut!! Grêt Mark, hyfryd. Cinio… nôl am hanner awr wedi dau… gwych."

Yn seiliedig ar arolwg y 91Èȱ¬ o'r enw Great British Class Survey, dangoswyd bod 73% o actorion yn deillio o gefndiroedd breintiedig o'i gymharu efo 10% sy'n deillio o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Anghysondeb eithriadol!

Dwi'm yn amau bod cyfansoddiad tebyg yn gyson drwy'r diwydiant gyfa' yng Nghymru (does dim tystiolaeth glir i gadarnhau hyn... ond dwi'n fodlon betio'n morgij fod o'n wir).

Mae'n siŵr bod chi'n meddwl pa wahaniaeth mae hyn yn 'neud, wedi'r cwbl, mae'r un yn wir am sawl diwydiant arall. Yn fy marn i, mae cyfrifoldeb moesol i sicrhau bod cyfansoddiad ein diwydiannau celfyddydol yn adlewyrchiad teg o gymdeithas.

Mae'n rhaid i ni wneud ymdrech gydwybodol i gynnwys unigolion o bob math o gefndiroedd, a sylwi ar y rôl mae braint yn chwarae i atgyfnerthu'r anghydraddoldeb 'da ni'n ei weld.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Flanagan yn chwarae rhan Jinx ar Pobol Y Cwm

Wrth ddehongli'r newidiadau gwleidyddol sy'n 'sgubo'r gorllewin, mae un peth yn glir - rydym wedi ein hollti ar hyd llinellau economaidd. Mae'r anghydweld rhwng y prifddinasoedd cyfoethog a'r ardaloedd tlawd i'r gogledd yn achosi i ni droi'n cefnau ar ein gilydd.

Os 'da ni am gydlynu fel cenedl, mae'n bwysig ein bod yn adrodd hanesion o safbwyntiau gwahanol er mwyn creu dealltwriaeth.

Yn fy marn i, dyma rôl bwysicaf y celfyddydau - glynu cymdeithas at ei gilydd.

Dyna pam mae'n uffernol o bwysig i greu rhwydweithiau a llwybrau i bobl gyffredin ymuno yn y celfyddydau.

Un o'r prif resymau i mi ddechrau'r wefan CutCasting oedd creu platfform i'r rheiny oedd isio perfformio, ond heb yr adnoddau neu'r rhwydweithiau cymdeithasol i wireddu'r uchelgais.

Fel ddywedodd Paulo Coehlo: "Culture makes people understand each other better. And if they understand each other better in their soul, it is easier to overcome the economic and political barriers."