Llunio memynnau i nodi Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn galw ar siaradwyr Cymraeg i nodi Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith ddydd Mawrth drwy lunio memynnau ar-lein.
Lluniau gyda mymryn o destun sy'n cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol ydy memynnau, neu memes.
I nodi'r diwrnod, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn dyfeisio memynnau ac yn eu cyhoeddi, gan ychwanegu'r hashnod #MemeML.
Mae grwpiau Cymraeg fel Cymdeithas yr Iaith a'r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor yn cefnogi'r ymgyrch ryngwladol.
UNESCO sy'n trefnu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith, sy'n cael ei gynnal yn flynyddol ar 21 Chwefror.
Nifer o sefydliadau sy'n hyrwyddo ieithoedd llai sy'n trefnu'r her, yn eu plith y Prosiect Amrywiaeth Ieithoedd Digidol a'r wefan Indigenous Tweets.
Mae partneriaid eraill y prosiect yn cynnwys grwpiau sy'n gweithio ar ran cymunedau ieithyddol lleiafrifol mewn llefydd mor amrywiol 芒 Chymru, Guatemala, Catalonia, El Salvador a Nigeria.
Hunanhyder
Dywedodd Dr Tegau Andrews o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, bod siaradwyr ieithoedd llai yn aml yn teimlo eu bod nhw'n gorfod defnyddio ieithoedd mwy ar y we er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
"Mewn gwirionedd, mae angen i ni fod yn ddigon hunanhyderus i 'sgrifennu yn Gymraeg ymysg ein hunain heb boeni ydy siaradwyr ieithoedd mwy yn ein deall ni," meddai.
"Y neges ry'n ni eisiau ei chyfleu i bobl yw bod hwyl i gael wrth ddefnyddio Cymraeg ar y we, ar Twitter a Facebook."
Ychwanegodd bod Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith yn gyfle i ddathlu amrywiaeth ieithyddol.
"Mae e ychydig fel G诺yl San Ffolant", meddai. "Yn ddelfrydol, dylai pobl fod yn meddwl am eu mamiaith nhw mwy nac unwaith y flwyddyn, ond pam ddim cael un diwrnod arbennig i'w ddathlu!"
Thema Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith eleni yw addysg amlieithog, ac mae UNESCO yn galw ar awdurdodau i ddatblygu addysg mewn ieithoedd lleol ar draws y byd er mwyn "hyrwyddo dyfodol cynaliadwy".