Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr Egin: Ansicrwydd am gynllun ariannol pencadlys S4C
Fe wnaeth y brifysgol y tu 么l i bencadlys newydd S4C, Yr Egin, ddweud wrth Lywodraeth Cymru y byddai angen arian cyhoeddus, fis yn unig cyn gwadu bod bwlch ariannol.
Mae papur briffio gafodd ei yrru gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i'r llywodraeth ym mis Medi yn dweud: "Mae angen buddsoddiad cyhoeddus yng nghynllun Yr Egin y brifysgol er mwyn cael gwared 芒'r bwlch ariannol."
Ym mis Hydref, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wrth ACau ei fod yn "siomedig" bod bwlch ariannol wedi ymddangos.
Mae'r brifysgol wedi gwadu na dyna oedd yr achos, gan ddweud nad oes bwlch ariannol wedi ymddangos yn y cynllun busnes.
Fe wnaeth y brifysgol ofyn am arian cyhoeddus bythefnos ar 么l i S4C gael gwybod bod y cynllun yn datblygu yn 么l y disgwyl.
Daeth ar 么l i'r brifysgol ddweud bod y cynllun yn cael ei "reoli'n effeithiol".
Fe wnaeth prif weithredwr S4C, Ian Jones, ysgrifennu at Is-ganghellor y brifysgol yn croesawu "sicrwydd bod costau'r cynllun yn parhau i gael eu rheoli'n effeithiol".
Roedd y brifysgol hefyd wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru bod tua 65 o staff S4C a'r 91热爆 yn symud i'r Egin.
Dywedodd 91热爆 Cymru nad oedd unrhyw gytundeb o'r fath wedi ei gadarnhau a bod trafodaethau yn parhau.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C mai'r brifysgol oedd yn gyfrifol am adeiladu ac ariannu Yr Egin.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Nid oes bwlch ariannol wedi ymddangos yng nghynllun busnes Yr Egin ers i S4C ei dderbyn."
Ychwanegodd bod yr Awdurdod yn "llwyr ymwybodol o'r ffaith y byddai'r brifysgol yn gwneud cais drwy sianelau allanol am arian tuag at ddatblygu clwstwr creadigol yng Nghaerfyrddin".
Dywedodd y llefarydd hefyd y "byddai'n anodd iawn deall pam y byddai cynllun trawsnewidiol allweddol fel hwn yng Ngorllewin Cymru, a fyddai'n gwireddu amcanion strategol clir yn Symud Cymru Ymlaen, yn cael ei wrthod, yn enwedig o gofio bod yr argymhellion yn rhoi sylw teilwng i'r holl risgiau ariannol terfynol".