91热爆

Pencadlys newydd S4C: Cais am fwy o arian cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Yr EginFfynhonnell y llun, PCDDS

Mae 91热爆 Cymru ar ddeall bod y brifysgol sydd y tu 么l i'r datblygiad yng Nghaerfyrddin fydd yn cartrefu pencadlys newydd S4C wedi gofyn am filiynau o bunnoedd yn ychwanegol o arian cyhoeddus.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd yn datblygu canolfan Yr Egin, ble bydd y darlledwr wedi'i leoli o fis Mawrth 2018.

Mae'r 91热爆 ar ddeall bod cais am grant o rhwng 拢4m a 拢6m wedi cael ei wneud i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y brifysgol eu bod wedi gwneud cais am arian o dan gynllun Symud Cymru Ymlaen, a bod gweinidogion yn asesu'r achos busnes ar hyn o bryd.

Fe wnaeth y datblygiad dderbyn caniat芒d cynllunio ym mis Hydref, ac mae'r Kier Group wedi cael eu penodi fel y prif adeiladwyr.

'Archwilio opsiynau'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r brifysgol wedi bod yn archwilio nifer o opsiynau cyllido sy'n ymwneud 芒 datblygu Cyfnewidfa Ddigidol, Diwylliannol a Chreadigol, sef Yr Egin, ar ei champws yng Nghaerfyrddin, sy'n cynnwys cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

"Mae ein achos busnes ar gyfer y fenter gyffrous hon, sy'n ymateb i'r rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, yn cael ei hystyried ar hyn o bryd gan weinidogion.

"Mae'r fenter yn rhan o ymateb y brifysgol i raglen y llywodraeth gan ei bod yn adeiladu ar ffocws Llywodraeth Cymru ar greu canolfannau ar gyfer y diwydiannau uwch-dechnoleg ar draws y rhanbarthau a bydd yn datblygu'r diwydiannau creadigol ymhellach yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, PCDDS

Mae S4C wedi mynnu nad yw'r datblygiadau diweddaraf yn cael effaith ar y cynlluniau i symud, gyda 55 o swyddi yn trosglwyddo o Gaerdydd i'r pencadlys newydd.

Dywedodd llefarydd: "Mae pencadlys newydd S4C 'Canolfan S4C - Yr Egin' yn cael ei ddatblygu gan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gydag S4C fel tenant angor.

"Mater i PCDDS yw ariannu ac adeiladu'r ganolfan."

拢11m i'r economi

Mae cyfarwyddwyr y cynllun wedi amcangyfrif y bydd y ganolfan newydd gwerth 拢11m i'r economi yn lleol pob blwyddyn.

Mae'r cwmni hyfforddiant Big Learning Company, fydd hefyd yn denantiaid yn yr adeilad newydd, wedi dweud nad ydyn nhw'n ymwybodol o unrhyw broblemau ariannol gyda'r cynllun.

Dywedodd gyfarwyddwr y cwmni, Mark John: "Rydyn ni'n parhau yn gyffrous iawn am weithio yn Yr Egin ar gampws PCDDS ochr yn ochr 芒 phartneriaid allweddol fel S4C a dydyn ni'n bendant ddim yn ymwybodol o unrhyw beth sydd wedi digwydd yn yr wythnosau diwethaf i effeithio ar y cyffro hynny."