91热爆

Argymell gwrthod corff treftadaeth Cymru Hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa

Mae cyrff treftadaeth Cymru wedi gwrthod unrhyw uniad ffurfiol o'u swyddogaethau.

Ond fe fydd Cadw, sy'n un o gyrff Llywodraeth Cymru, yn troi'n sefydliad annibynnol yn 么l yr argymhellion a gyflwynwyd i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Bydd adolygiad annibynnol o Amgueddfa Cymru hefyd yn cael ei gynnal a'i gyhoeddi erbyn yr haf.

Roedd gwrthwynebiad cryf gan Amgueddfa Cymru ac eraill i gynllun gwreiddiol y llywodraeth i uno rhai elfennau masnachol sefydliadau treftadaeth dan gorff ymbarel newydd Cymru Hanesyddol.

Disgrifiad,

Rhodri Glyn Thomas: 'Gwarchod annibyniaeth' cyrff treftadaeth

Dros y misoedd diwethaf mae trafodaethau ffurfiol wedi cael eu cynnal rhwng Cadw, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol ac undebau llafur.

Mae'r gr诺p o gynrychiolwyr y cyrff wedi cyflwyno naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru yn dilyn y cyfarfod olaf ar 27 Ionawr.

Er gwaethaf cyhoeddiad y llywodraeth y llynedd mai ei bwriad oedd dod 芒 swyddogaethau masnachol Cadw ac Amgueddfa Cymru at ei gilydd, dim ond elfennau o gydweithio anffurfiol sydd wedi'u cytuno.

Mae'r argymhellion yn cynnwys:

  • Bod y llywodraeth ddim yn gyfrifol am reolaeth Cadw;

  • Creu "partneriaeth strategol" rhwng y cyrff treftadaeth, gyda rheolwyr yn cwrdd yn rheolaidd i drafod sut i gydweithio heb beryglu annibyniaeth y sefydliadau;

  • Cydweithio ar ambell i elfen fasnachol, megis eitemau yn siopau'r amgueddfeydd a'r cestyll;

  • Rhannu rhai swyddogaethau cefn swyddfa, heb golli swyddi;

  • Mwy o gydweithio i hyrwyddo'r Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru.

Dywedodd Mr Skates ddydd Iau y byddai'n "ystyried argymhellion yr adroddiad yn fanwl" ac y bydd yn paratoi ymateb iddyn nhw yn unigol.

Cyhoeddodd hefyd y bydd adolygiad annibynnol o Amgueddfa Cymru.

Bydd yn cael ei gynnal gan Dr Simon Thurley, cyn-brif weithredwr English Heritage, i archwilio perfformiad a photensial yr amgueddfa.

Mae'r amgueddfa wedi dweud eu bod yn croesawu'r adolygiad fel "cyfle i ddangos cyflawniadau'r sefydliad".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ken Skates wedi dweud yn y gorffennol y byddai uno elfennau o'r cyrff treftadaeth yn denu mwy o fuddsoddiad i'r sector

Uchelgais y llywodraeth

Fe ddaeth amheuon am y cynlluniau i uno rhai swyddogaethau yn ffurfiol gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd a chyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl.

Roedd gwrthwynebiad hefyd gan gyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green, a chyn-gadeirydd Cyngor y Celfyddydau, yr Athro Dai Smith.

Wrth ymddangos o flaen pwyllgor o aelodau'r Cynulliad, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson y byddai'r amgueddfa yn cael ei "chlymu" os yw'n colli rheolaeth ar rai o'i gweithrediadau masnachol, tra roedd Cymdeithas yr Amgueddfeydd wedi rhybuddio y gallai'r cynllun beryglu sefyllfa ariannol yr amgueddfa.

Roedd creu Cymru Hanesyddol yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad y llynedd, a dywedodd Mr Skates byddai uno "yn helpu adeiladu sector treftadaeth sydd ag uchelgais byd-eang ac yn enwog yn rhyngwladol," gan sicrhau bod y sefydliad yn fwy "gwydn yn ariannol".