91热爆

Cymraeg ar yr ynys

  • Cyhoeddwyd

Mae Desert Island Discs ar 91热爆 Radio 4 yn dathlu pen-blwydd yn 75 oed eleni. Y dyfarnwr rygbi poblogaidd Nigel Owens fydd gwestai Kirsty Young ddydd Sul, 5 Chwefror.

Ond beth am Gymry Cymraeg eraill sydd wedi cael y fraint o ddewis eu hoff ganeuon ers i Roy Plomley wahodd y gwestai cyntaf n么l yn 1942?

Dyma ambell un i chi:

Gareth Edwards: 10 Rhagfyr 1973

Roedd Gareth Edwards yn gapten t卯m rygbi Cymru pan sgwrsiodd gyda Roy Plomley am ei blentyndod yng Ngwauncaegurwen a'i fagwraeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond roedd ei ddewis o gerddoriaeth yn helaeth:

Dewisodd C么r Orffiws Treforys yn canu Rhyfelgyrch G诺yr Harlech, Frank Sinatra'n canu My Way, a Tom Jones yn canu Delilah.

Ond ei ddewis fel hoff g芒n oedd clasur Simon a Garfunkel, Bridge Over Troubled Water.

Ei hoff lyfr oedd casgliad o holl waith Dylan Thomas. Yn ddiddorol, ei ddewis o eitem foethus oedd corned... yr offeryn cerdd ac nid yr hufen i芒!

John Cale: 27 Chwefror 2004

Mi fuodd sylfaenydd The Velvet Underground yn siarad gyda Sue Lawley am ei blentyndod uniaith Gymraeg yn y Garnant, a'i hyfforddiant cerddorol clasurol cyn iddo symud i America a sefydlu'r band dylanwadol gyda Lou Reed.

Fel byddech chi'n disgwyl, roedd nifer o'i gyfoedion ymhlith ei ddewis cerddorol - Brian Wilson o'r Beach Boys, ei gyfaill agos Lou Reed, y Beatles, Leonard Cohen a Peter Gabriel, ond She Belongs To Me gan Bob Dylan ddewisodd fel ei hoff g芒n.

Fel eitem foethus, dewisodd beiriant gwneud coffi espresso gyda ffa coffi, a'i hoff lyfr fyddai Repetition, gan Alain Robbe-Grilles.

Dr Rowan Williams: 27 Rhagfyr 2002

Roedd Dr Rowan Williams newydd ei benodi fel Archesgob Caergaint pan sgwrsiodd gyda Sue Lawley am y broses o gael ei ddewis.

Roedd ei ddewis o gerddoriaeth yn glasurol ei natur, gyda C么r 5000 o leisiau yn canu Calon L芒n o Neuadd Albert yn un dewis, a finale Cosi Fan Tutte gan Mozart yn ddewis arall. Ond mi ddewisodd hefyd The Hedgehog's Song gan The Incredible String Band.

Ond ei hoff ddarn o gerddoriaeth oedd symudiad cyntaf Suite for Solo Cello no.1 in G Major gan Bach, a dewisodd biano fel ei eitem foethus.

Ei ddewis fel hoff lyfr oedd casgliad o gerddi gan W H Auden.

Y Fonesig Si芒n Phillips: 30 Mai 1997

Roedd yr actores Si芒n Phillips newydd orffen portreadu Marlene Dietrich pan sgwrsiodd gyda Sue Lawley, ac aeth ymlaen i son am ei gyrfa, a'i bywyd priodasol gyda'r actor Peter O'Toole.

Ei hoff g芒n oedd Cosi fan Tutte soave s茂a il vento gan Mozart, ond dewisodd amrywiaeth eang o ganeuon eraill gan Monty Python, Ella Fitzgerald a'r Dubliners.

Dewisodd pen a phapur fel eitem foethus, a The Medical Care of Merchant Seamen, gan William Louis Wheeler fel ei hoff lyfr.

Bryn Terfel: 26 Medi 2003

Sgwrsiodd Bryn Terfel am ei blentyndod ym Mhantglas a sgwrsio gydag ymwelwyr oedd yn aros ar fferm ei rieni drwy ddefnyddio iaith arwyddo.

Roedd ei ddewisiadau cerddorol ar y rhaglen yn amrywiol iawn, yn cynnwys Frank Sinatra, Sting, Lionel Richie, Karl Jenkins a Ch么r Meibion Treorci yn canu Myfanwy.

Ond dewisodd Elvis Presley'n canu Return To Sender fel ei hoff g芒n, a'i eitem foethus oedd Canolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Ei ddewis o hoff lyfr oedd Angela's Ashes, gan Frank McCourt.

Hugh Griffith: 6 Mawrth 1967

Sgwrsiodd yr unig Gymro Cymraeg i ennill Oscar gyda Roy Plomley, a dewisodd ambell i g芒n werin Gymraeg adnabyddus, fel Dafydd y Garreg Wen a Dacw Nghariad I Lawr Yn Y Berllan, ond ei hoff ddarn o gerddoriaeth oedd St Matthew Passion - O Haupt voll Blut, gan Bach.

Roedd Hugh wedi penderfynu 'sgwennu ei lyfr ei hun ar yr ynys mae'n si诺r, gan iddo ofyn am lyfr ysgrifennu gw芒g a phensiliau fel ei hoff lyfr, a dewisodd siamp锚n fel ei eitem foethus.