Ehangu prosiect elusennol i ddiogelu mynyddoedd Eryri
- Cyhoeddwyd
Chwe mis ar 么l ei sefydlu, mae 'na fwriad i ehangu cynllun gwirfoddol sy'n codi arian gan ymwelwyr i geisio diogelu Eryri.
Fel rhan o gynllun Rhodd Eryri, mae bron i 30 busnes yn gofyn i'w cwsmeriaid wneud cyfraniad wrth iddyn nhw archebu neu brynu rhywbeth.
Hyd yma, mae'r prosiect wedi codi dros 拢3,000 ar gyfer hyfforddi gwirfoddolwyr a'r nod nawr yw codi rhagor o arian ar gyfer achosion eraill.
Cymdeithas Eryri fydd y corff cynta' i elwa o'r arian - mi fyddan nhw'n derbyn dros 拢3,000 at eu gwaith.
Dywedodd cyfarwyddwr y gymdeithas, John Harold: "Rydym yn mynd 芒 gwirfoddolwyr allan i warchod Eryri ac mae'r arian yma yn mynd i roi cyfle i ni roi rhywbeth yn 么l i i'r gwirfoddolwyr yna."
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i addysgu hyd at 48 person ifanc am gadwraeth a sgiliau mynydda, a bydd hynny wedyn yn arwain at gymhwyster achrededig.
Ychwanegodd Mr Harold: "Mae 'na ddigon o bobl ifanc yn fodlon gwirfoddoli, nifer ohonyn nhw eisiau gweithio yn yr awyr agored a rhai eisiau gweithio ym maes cadwraeth.
"Ond y broblem y dyddiau yma yw derbyn y profiad angenrheidiol yna ar gyfer eich CV - bydd hynny r诺an yn rhywbeth allwn ni ei gynnig," meddai.
'Gwella'r amgylchedd a thwristiaeth'
Dywedodd Josh Feliden, perchennog busnes sydd yn cymryd rhan yn y cynllun: "Mae'n gyfle gwych i ni fel busnes bach i helpu i wella'r amgylchedd a thwristiaeth. Mae'n mynd i gynorthwyo fy musnes i ddatblygu yn y dyfodol."
Wrth i gostau cynnal a chadw'r llwybrau gynyddu, un awgrym sydd wedi derbyn ymateb cymysg ydy codi t芒l ar gerddwyr ar Yr Wyddfa.
Ar hyn o bryd mae tua 拢250,000 yn cael ei wario ar y llwybrau, ond mae angen miliynau i wneud y gwaith yn iawn. Ond nid pawb sy'n cytuno 芒'r syniad hwnnw.
Yn y cyfamser, mae trefnwyr Rhodd Eryri'n chwilio am fudiadau i gydio yn yr awenau i sicrhau bod y prosiect yn ffynnu wrth i'r tymor ymwelwyr agos谩u.
Dywedodd Rhian Hughes sydd yn gydlynydd gydag Arloesi Gwynedd: "Hoffem gofrestru mwy o fusnesau i fod yn rhan o'r cynllun hyfryd yma.
"Mae ymwelwyr wedi croesawu'r cynllun gan ei fod yn gyfraniad gwirfoddol ac nid yn rhywbeth sydd yn cael ei orfodi ar ymwelwyr, ac mae pobl yn hapus i gyfrannu."