Galw i gyhoeddi gwaith ar gamdriniaeth rhyw ar y wê
- Cyhoeddwyd
Mae academyddion yn galw i'w gwaith ar gam-drin rhyw ar y wê gael ei gyhoeddi er mwyn i rieni weld os yw eu plant yn cael ei denu i feithrin perthynas ar-lein.
Mae tîm ym Mhrifysgol Abertawe wedi dod i gasgliadau "annisgwyl" ar ôl astudio 200 o logiau ar-lein pobl sydd yn meithrin plant i gael perthynas ar y wê.
Bydd gwaith yr Athro Nuria Lorenzo-Dus yn cael ei gyhoeddi yn fuan ac mae hi'n galw am arian er mwyn troi ei gwaith ymchwil yn wybodaeth gyhoeddus ar gyfer rhieni.
Dywedodd yr Athro Lorenzo-Dos: "Dyw'r bobl sydd yn ceisio meithrin perthynas ddim yn dweud celwydd am ei hoedran, maent yn gallu gweithredu'n sydyn iawn. Mewn un achos fe gymerodd hi lai na 20 munud i berswadio plentyn i gwrdd â nhw.
"Mae'r bobl yma yn fedrus iawn ac yn gyfathrebwyr llawn perswâd. Maen nhw'n defnyddio arfau soffistigedig iawn i berswadio'r dioddefwyr i fod mewn perthynas rywiol."
Yn ôl yr Athro Lorenzo-Dos, fel arfer mae'r plant yn ymddiried yn y bobl sydd yn meithrin perthynas gyda nhw ar ôl i'r person eu canmol nhw mewn ffordd sydd ddim o reidrwydd yn rhywbeth sydd yn ymwneud â rhyw.
"Fe all y bobl fod yn talu teyrnged i aeddfedrwydd y plentyn neu pa mor dda maen nhw'n chwarae gêm benodol, neu ffyrdd eraill sydd ddim ymwneud a themâu o natur rywiol," meddai.
Ymbellhau
Dywedodd hefyd fod y bobl yn ceisio cael y plentyn i ymbellhau oddi wrth ei rieni a ffrindiau er mwyn gwneud y berthynas yn unigryw ac yn un arbennig.
Mae ffigyrau yn dangos fod enwau 155 o bobl wedi ei crybwyll i'r heddlu yng Nghymru yn y pum mlynedd diwethaf yn dilyn cyfarfod plentyn ar ôl i'r berthynas gael ei feithrin ar y wê.
Cyn y Nadolig dywedodd elusen yr NSPCC bod 85 plentyn o Gymru wedi cysylltu gyda llinell gymorth Childline ynglŷn â chamdriniaeth ar y wê yn y flwyddyn ddiwethaf.