91热爆

'Angen gweithredu' ar amddiffynfeydd rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
StormFfynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o'r tywydd mawr yr wythnos ddiwethaf wedi ei dynnu o'r rheilffordd

Mae Aelod Cynulliad yn y gogledd wedi galw am weithredu i gryfhau amddiffynfeydd morol er mwyn gwarchod prif lein rheilffordd y gogledd ger yr A55 ym Mae Colwyn.

Yn 么l Darren Millar, AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, cafodd yr arfordir ei ddifrodi ymhellach gan dywydd drwg yr wythnos ddiwethaf, ac mae bellach "mewn cyflwr difrifol iawn".

Ei bryder yw bod gwaith i liniaru'r broblem yn cael ei arafu oherwydd diffyg cytundeb rhwng sefydliadau gwahanol am sut i dalu am y gwaith.

Mae'n bwriadu codi'r mater yn y Senedd ddydd Mawrth.

'Mater o amser'

Dywedodd Mr Millar: "Mae pob storm yn gwneud niwed i'r promen芒d. Roedd mwy o ddifrod yr wythnos ddiwethaf i waliau rhai o'r amddiffynfeydd.

"Mae'n fater o amser tan y gwelwn ni ddigwyddiad difrifol fel colli bywyd, neu hyd yn oed rhan o arglawdd y rheilffordd yn dymchwel gan achosi anhrefn.

"Mae'n hanfodol bod peth gwaith yn cael ei wneud yma - nid dim ond gwaith cynnal a chadw, ond job iawn i ddod 芒'r amddiffynfeydd i safon fel y gall pobl gael eu gwarchod o'r m么r."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Difrod i'r arglawdd gyda'r rheilffordd y tu 么l i'r ffens a'r A55 y tu hwnt i hwnnw

Roedd Mr Millar yn cyfeirio ar ddarn o'r arfordir sy'n cynnwys darn cul o'r promen芒d - lle mae Cyngor Conwy yn gyfrifol - rhan o arglawdd y rheilffordd y tu 么l iddo a phrif ffordd yr A55 y tu 么l i hwnnw.

Mae D诺r Cymru hefyd yn gyfrifol am ddraen storm sy'n rhedeg o dan y promen芒d.

'Difrod drwg'

Dywedodd cynghorydd yr ardal, y Geidwadwraig Cheryl Carlisle ei bod yn "bryderus iawn am ddiogelwch pobl a'r isadeiledd".

"Mae'r arglawdd sy'n dal y rheilffordd a'r A55 wedi cael ei ddifrodi'n ddrwg. Does dim angen llawer mwy yn y dyfodol ac fe fydd y ddau yn chwalu," meddai.

Ond dywedodd Darren Millar nad yw'r cyngor yn medru gwneud cais am arian gan Lywodraeth Cymru i warchod tai gan nad oed cartrefi yn agos i'r safle.

Mae hynny'n golygu bod yr awdurdod yn gorfod gweithio gyda chwmni Network Rail a sefydliadau eraill i geisio gweld sut i dalu am y gwaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd rhan o'r prom hefyd ei ddifrodi

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Fe wnaethon ni gryn dipyn o waith yn Hen Golwyn yn 2014, gan gynnwys gosod creigiau er mwyn gwarchod y rheilffordd.

"Rydym yn archwilio ein hasedau arfordirol yng ngogledd Cymru yn gyson fel y gallwn roi arian i le mae angen gwneud gwaith. Mae archwiliadau diweddar yn dangos nad oes fawr o risg i'r rheilffordd yn Hen Golwyn ar hyn o bryd.

"Fe fyddwn yn falch iawn o weithio gyda Chyngor Conwy er mwyn darparu unrhyw welliannau angenrheidiol i'r amddiffynfeydd morol yn Hen Golwyn yn y dyfodol os fydd angen hynny."

Mae'r 91热爆 wedi gofyn am sylw ar y mater gan gwmni D诺r Cymru.