Cyngor M么n i ymgynghori ar gau ysgolion ar yr ynys
- Cyhoeddwyd
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys M么n wedi penderfynu ymgynghori ar gynlluniau i ad-drefnu ysgolion cynradd yr ynys.
Fe allai tair ysgol gynradd gau yn 么l y cynlluniau fydd yn cael eu cyflwyno gan y cyngor.
Mae dau opsiwn yn cael eu hystyried ar gyfer ysgolion Corn Hir, Bodffordd, Esceifiog, Talwrn, Henblas a'r Graig.
Mae'r cyngor eisoes wedi ymgynghori 芒 rhieni, llywodraethwyr a staff y chwe ysgol, ynghyd 芒 chynghorwyr lleol a Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn y penderfyniad ddydd Llun bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ddau opsiwn sydd yn cael eu hystyried.
Opsiwn A
Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd;
Adnewyddu Ysgol Esceifiog;
Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau;
Adnewyddu Ysgol Henblas.
Opsiwn B
Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd;
Adeiladu ysgol gynradd newydd i 150 o ddisgyblion yng Ngaerwen yn lle Ysgol Esceifiog;
Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau;
Adnewyddu Ysgol Henblas.