Tri llu heddlu o Gymru yn ymchwilio i gam-drin pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Heddlu'r De a Heddlu Dyfed Powys yw'r lluoedd diweddaraf i gadarnhau eu bod nhw bellach yn ymchwilio i achos hanesyddol o gam-drin rhyw o fewn y byd pêl-droed.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i un honiad yn ymwneud â "chlwb pêl-droed amatur".
Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn ymchwilio i un honiad, ond dydyn nhw heb roi unrhyw fanylion pellach.
Daw hynny yn sgil cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf eu bod nhw hefyd yn ymchwilio i achosion hanesyddol o gam-drin.
Bellach mae 20 o luoedd heddlu ar draws Prydain yn ymchwilio i achosion, wedi i nifer o gyn bêl-droedwyr adrodd eu bod wedi cael eu cam-drin gan hyfforddwyr pan oedden nhw'n ifanc.
Yn eu mysg roedd Matthew Monaghan o Ben LlÅ·n, cyn-gapten tîm dan-18 Cymru, a siaradodd gyda 91Èȱ¬ Cymru am ei brofiadau o gael ei gam-drin yn rhywiol.
Mae Monaghan bellach yn llysgennad ar gyfer elusen annibynnol newydd yr Offside Trust, sydd wedi'i sefydlu i roi cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin.
Cafodd yr elusen ei sefydlu gan y cyn bêl-droedwyr Andy Woodward, Steve Walters a Chris Unsworth - oedd i gyd wedi dioddef o gam-drin rhyw pan oedden nhw'n chwaraewyr ieuenctid.
Cafodd llinell gymorth ei sefydlu gan yr NSPCC yn dilyn yr honiadau niferus, ac erbyn diwedd yr wythnos diwethaf roedden nhw eisoes wedi derbyn dros 8,000 o alwadau.
Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu hefyd wedi dweud bod 350 o ddioddefwyr wedi adrodd am achosion o gam-drin yn erbyn plant, gan gynnwys rheiny sydd wedi cysylltu drwy'r NPSCC yn ogystal â gwybodaeth sydd wedi dod i law Operation Hydrant.