Mentro i lenwi'r gofod
- Cyhoeddwyd
Beth y'ch chi'n ei wneud os y'ch chi yn gwybod sut mae trwsio ceir ond ddim 芒'r gofod na'r offer angenrheidiol i gyflawni'r dasg yn effeithiol?
Dyna oedd y cyfyng-gyngor roedd Luke Riddiford o Aberd芒r ynddo fe tan iddo ddod ar draws cynllun .
Mae'r cynllun, sy'n cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyngor i bobl ifanc rhwng 16 a 24 sydd 芒 syniad busnes i fynd amdani a thyfu i fod yn entrepreneuriaid llwyddiannus y dyfodol.
Bu Luke, sy'n 22 oed, yn egluro wrth Cymru Fyw sut mae e wedi llwyddo i ddechrau busnes unigryw ar 么l manteisio ar y cynllun:
Fi wastad wedi gweithio ar geir, a wastad wedi bod 芒 diddordeb mewn ceir. Un dydd o'n i mas yn y glaw, dan y car yn chwilio am tools ac yn methu dod o hyd i beth o'n i ei angen.
Es i o gwmpas ambell i garej lleol i weld os allen i fenthyg bach o space a tools ond o'n nhw i gyd yn dweud nad oedd hi'n bosib achos yswiriant, a fydde hi wedi cosio dros 拢200 am hanner awr neu awr i mi.
Wel oedd hynna ddim iws, felly dyna pryd ges i'r syniad o ddechrau busnes oedd yn cynnig gofod mewn garej alle unrhyw un logi am gyfnod, er mwyn dod i weithio ar eu ceir, gyda'r holl tools a chyngor ar gael os byddai ei angen. Dyna ddechrau Ridds Ramps.
Mae hyn yn rhywbeth eithaf cyffredin yn America, felly wnes i ychydig o waith ymchwil, rhoi syniad at ei gilydd a mynd i'r banc i geisio cael benthyciad.
"Y banciau yn chwerthin ar fy mhen"
Wnaeth y banciau i gyd chwerthin ar fy mhen. Un rheswm oedd oherwydd fy mod i mor ifanc, ond hefyd achos doedd dim cynllun ariannol digon da gyda fi ar gyfer y busnes a gan bod y syniad mor anarferol.
Wedyn, awgrymodd cyfrifydd, a oedd yn ffrind i'r teulu, y dylen i fynd at Llywodraeth Cymru a dyna pryd wnes i gysylltu gyda chynllun Syniadau Mawr Cymru. Ges i help a chyngor ar sut i wneud cynllun busnes a rhagolygon ariannol a thros gyfnod o ddwy flynedd wnaethon ni lwyddo i gael pecyn at ei gilydd gafodd ei dderbyn gan fanc.
Felly erbyn hyn, os chi'n byw yn ardal Aberd芒r, gallwch chi logi gofod i weithio ar eich car, ac os nad ydych chi'n sicr o beth fydd angen ei wneud, yna mae gyda ni mechanics ar gael i ddangos i chi.
Er enghraiffft, os chi eisiau rhoi service i'ch car a newid yr olew, yna gallwn ni ddangos i chi y tro cyntaf, a wedyn y gobaith yw y dewch chi'n 么l tro nesa' a gwneud y gwaith eich hun. Y syniad yn fras yw, "give a man a fish, he'll eat for a day, teach a man to fish..."
Ond o gael y syniad nes i'r arian yn dod ar gael o'r banc, gymerodd y broses bedair blynedd. Felly os oes gyda chi syniad, a chi wirioneddol credu yn y syniad... sticiwch gydag e.
Erbyn hyn, rwy wedi bod ar agor ers wyth mis. Roedd y cwpwl o fisoedd cyntaf yn galed galed ofnadwy. Mae'r concept yn un eithaf newydd, ac felly cymerodd hi ychydig o amser i gael y neges mas 'na.
"Prysur ofnadwy"
Ond un peth sydd yn rhaid i mi ddweud, er gwaetha'r ffaith bod y busnes ar ei draed, mae dal angen cyngor a chymorth arnaf i. Fues i yn bootcamp diweddara' Syniadau Mawr Cymru yn Margam yn gynharach eleni. Do'n i ddim yn si诺r os y byddai'n wastraff amser ond mi ges i lot iawn o bethau mas ohono.
Wnes i lot o gysylltiadau a hefyd ges i lot o tips ar bethau fel marchnata. Er fy mod i'n mechanic eithaf da ac yn deall cyfrifiaduron, wnes i sylweddoli bod gen i lot i ddysgu am sut i farchnata a hysbysebu'r busnes yn effeithiol.
Erbyn hyn, ni'n brysur ofnadwy ac yn edrych ar uned gwag am bris resymol lawr yng Nghaerdydd.
Watch this space.