Dim cyrsiau 'os nag oes gwerslyfrau Cymraeg' medd un corff
- Cyhoeddwyd
Ni ddylid cyflwyno cyrsiau TGAU a Safon Uwch newydd yn 2017 oni bai bod gwerslyfrau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi yr un pryd, yn 么l Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg - corff sy'n cynrychioli ysgolion.
Fis diwethaf clywodd rhaglen Newyddion 9 am
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, mae CYDAG, sy'n cynrychioli tua 57 o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dweud bod y sefyllfa bresennol yn "argyfwng" ac yn galw am "benderfyniadau egwyddorol" gan Lywodraeth Cymru i gefnogi addysg ddwyieithog.
Dywedodd Arwel George o CYDAG: "Rydym yn gweld dogfennau a pholis茂au sy'n datgan bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu trin y ddwy iaith yn gyfartal ac yn annog mwy o ddisgyblion i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae gweithrediad a chyflwyniad polis茂au yn cwympo'n fyr iawn o hyn."
Bydd naw cwrs TGAU newydd a chwe chwrs Safon Uwch yn cael eu cyflwyno y flwyddyn nesaf. Dim ond dau sydd wedi eu cymeradwyo gan y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru hyd yn hyn.
Mae CYDAG yn honni y bydd unrhyw oedi yn golygu na fydd gan y bwrdd arholi, CBAC, ddigon o amser i baratoi adnoddau Cymraeg.
'Cydweithio'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru: "Mae Cymwysterau Cymru a CBAC yn cydweithio'n agos wrth ddatblygu manylebau a deunyddiau asesu enghreifftiol ar gyfer y pynciau hynny a fydd yn cael eu haddysgu'n gyntaf ym mis Medi 2017.
"Mae'r broses yn cadw at yr amserlen, ac mae manylebau drafft ar gael yn ddwyieithog ym mhob pwnc. Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl y bydd deunyddiau terfynol cymeradwy ar gael yn unol 芒'r amserlen a gyhoeddir ar ein gwefan.
"Rydym yn ymwybodol am bryderon ynghylch argaeledd adnoddau addysgu a dysgu ategol, yn Gymraeg a Saesneg. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda chyhoeddwyr i hwyluso argaeledd gwerslyfrau ac adnoddau eraill i gefnogi athrawon sy'n cyflwyno cymwysterau yng Nghymru.
"Byddwn yn ymateb i lythyr CYDAG yn uniongyrchol yn y man."
Yn y cyfamser, mae Comisiynydd y Gymraeg yn y broses o drafod y mater gyda'r Llywodraeth er mwyn ceisio datrys y broblem.
'Deall yr her'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwbl ymroddedig i sicrhau bod yr adnoddau iawn ar gael i gefnogi addysgu a dysgu drwy'r Gymraeg. Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi dros 拢2.6m bob blwyddyn yn datblygu ac yn cyhoeddi adnoddau Cymraeg ar gyfer holl bynciau'r cwricwlwm a phynciau galwedigaethol i blant a phobl ifanc 3-19 oed.
"Rydyn ni'n deall cymaint o her yw cyfieithu testunau gan gyhoeddwyr masnachol. Dyna pam rydyn ni'n rhoi cyllid i CBAC i reoli'r gwaith o gyfieithu llyfrau testun sy'n cael eu creu gan gyhoeddwyr masnachol yn Lloegr i gefnogi arholiadau yng Nghymru.
"Rydyn ni'n disgwyl i CBAC weithio gyda chyhoeddwyr i wneud yn si诺r bod y broses hon yn parhau i wella."