Cyflwyno cynllun i gadw Llyfrgell Y Gelli ar agor
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gobeithio atal Llyfrgell Y Gelli Gandryll rhag cau wedi cyflwyno cynlluniau i gadw'r drysau ar agor.
Bydd y dref, sy'n enwog am ei siopau llyfrau, yn colli'r llyfrgell oni bai fod y gymuned yn talu am hanner y gost o'i rhedeg.
Roedd Cyngor Powys wedi gosod dyddiad cau o 31 Hydref i'r gymuned gyflwyno cynllun i atal y llyfrgell rhag cau.
Fe wnaeth y cyngor tref gyflwyno'r cynllun mewn pryd, a bydd trafodaethau nawr yn cael eu cynnal gyda Chyngor Powys.
Unarddeg mewn perygl
Roedd y cyngor sir wedi rhybuddio y byddai'n rhaid i'r llyfrgell gau, ynghyd 芒 10 arall yn y sir, oni bai fod cynghorau tref neu grwpiau cymunedol yn cyfrannu tuag at y gost o'u rhedeg.
Mae'r 11 cymuned ble mae'r llyfrgelloedd dan fygythiad oll wedi cyflwyno cynigion i Gyngor Powys i'w cadw ar agor.
Yn Y Gelli Gandryll byddai'n rhaid i'r gymuned gyfrannu o leiaf 拢18,000 pob blwyddyn i redeg y llyfrgell.
Mae Cyngor Powys wedi dweud bod angen arbed 拢250,000 o'r gyllideb llyfrgelloedd erbyn mis Ebrill 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016