91热爆

Dyn o Geredigion wedi marw yn Sbaen

  • Cyhoeddwyd
Eifion GwynneFfynhonnell y llun, Twitter

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn o ardal Aberystwyth fu farw ddydd Sadwrn yn Sbaen.

Roedd Eifion Gwynne, 41 oed, yn drydanwr adnabyddus ac yn briod 芒 thri o blant.

Yn 么l adroddiadau, cafodd ei daro gan gar yn nhref Estepona, tua 50 milltir o ddinas Malaga yn ne'r wlad.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod mewn cyswllt 芒'r awdurdodau yn Sbaen yngl欧n 芒 marwolaeth dyn y maen nhw'n credu sydd o Brydain.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn-glwb Eifion Gwynne, Llanymddyfri, yn talu eu teyrnged

Roedd Mr Gwynne yn chwarae rygbi i Aberystwyth ac yn arfer chwarae i Lanymddyfri.

Fe gadarnhaodd Clwb Rygbi Aberystwyth ei fod yn aelod o'r clwb ond dywedon nhw na fydden nhw'n gwneud datganiad ar hyn o bryd.

Mae'n debyg fod Mr Gwynne yn Sbaen ar gyfer angladd ffrind i'r teulu oedd yn byw yno.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teyrnged i Eifion Gwynne gan brop y Scarlets, Wyn Jones, ar Twitter