'Rhagfarn' at athrawon o leiafrifoedd ethnig
- Cyhoeddwyd
Mae "rhagfarn" tuag at athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol yn bodoli yng Nghymru, yn 么l ffigwr amlwg yn y sector addysg.
Betty Campbell MBE oedd y person cyntaf o leiafrif ethnig i fod yn bennaeth ar ysgol yng Nghymru.
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf mae .
Bydd elusen Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru yn rhannu eu gwaith ymchwil o adroddiad 'Hiliaeth yn y system addysg yng Nghymru' yn y Senedd ddydd Mawrth.
Mae'r elusen, sy'n agos谩u at ei 10fed pen blwydd yng Nghymru, yn galw ar y sector addysg i weithredu ar frys i "atal y llanw cynyddol o agweddau hiliol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru".
Ond yn 么l Mrs Campbell, does dim llawer wedi newid er gwell ers dros 50 mlynedd.
"Yr unig beth alla i feddwl yw bod yna lawer o ragfarn yn dal o gwmpas a dydw i ddim yn meddwl bod gan bobl lawer o feddwl o athrawon du," meddai wrth Cymru Fyw.
"Nes i gymhwyso fel athrawes yn 1963, ond faint [o athrawon du] sydd wedi dod drwodd ers hynny?
"Rhagfarn yw e'n rhannol, ond mae hefyd yn anwybodaeth. Dyw pobl methu newid eu safbwyntiau o gwbl. Pan ddes i yn brif athrawes am y tro cyntaf roedd 'na staff yn yr ysgol oedd ddim eisiau gweithio 'da fi. Dwi'n credu ei fod e'n farn hiliol mewn sawl ffordd."
'Ymroddedig'
Ychwanegodd: "Roeddwn i'n gobeithio erbyn hyn y byddai 'na lawer mwy o athrawon du yng Nghaerdydd ond yn anffodus does dim llawer," meddai.
"Ond alla i ddim dweud beth yw'r prif reswm am hynny. Dwi'n credu bod rhywfaint o ragfarn ond yw pobl dduon yn cael eu hannog i geisio am y swyddi?"
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru maen nhw'n parhau i fod yn "ymroddedig i sicrhau fod athrawon yn gynrychiadol o'u cymunedau" ac eu bod yn "annog pobl o bob cefndir i ystyried gyrfa fel athrawon".
Ychwanegodd eu bod yn "edrych yn ofalus" ar ddarganfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd ar ddyfodol y proffesiwn er mwyn sicrhau fod athrawon yn adlewyrchu'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.
Dywedodd llefarydd ar ran y rheolydd annibynnol Cyngor y Gweithlu Addysg fod y canran isel o athrawon o gefndir BME (Black and Minority Ethnic) wedi bod yn "gyson bob blwyddyn ers i gofrestru ddod yn orfodol" yn 2007.
"O ystyried y tan-gynrychiolaeth cyson a sylweddol yma o grwpiau ethnig yn y gweithlu'n bresennol, a'r twf o amrywiaeth ym mhoblogaeth ein hysgolion, mae'n amser i ni fynd i'r afael 芒 hyn o ddifrif," meddai.